Dyn wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad Caerdydd

stryd theodore Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad yn Stryd Theodore yn oriau man y bore ddydd Iau

Mae Heddlu'r De yn dweud bod dyn 37 oed bellach wedi marw yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd ddydd Iau, 13 Gorffennaf.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn ymosodiad yn Stryd Theodora, Adamsdown am tua 03:30 y bore hwnnw, ond bu farw ddydd Sul.

Mae dyn 18 oed o Dremorfa wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa.

Mae dyn arall 45 oed gafodd ei arestio bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ymchwiliad

"Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel llofruddiaeth ac mae ymchwiliad llawn i'r hyn ddigwyddodd bellach wedi dechrau," meddai'r Ditectif Arolygydd Richard Jones.

"Rydw i'n apelio ar unrhyw un welodd unrhyw beth amheus yn ardal Stryd Pearl, Stryd Theodora neu Broadway y ddinas yn oriau man y bore ddydd Iau 13 Gorffennaf i gysylltu â ni."

Mae teulu'r dyn fu farw bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion.