Aur i Olivia Breen yn naid hir y para-athletau

Olivia Breen Image copyright PA
Image caption Mae Olivia Breen yn fwy adnabyddus fel rhedwraig

Mae Olivia Breen wedi ennill medal aur yn y naid hir T38 ym Mhencampwriaeth Para-athletau'r Byd yn Llundain.

Llwyddodd y Gymraes 20 oed, sydd a pharlys yr ymennydd, i neidio record bersonol o 4.81m i gipio'r fuddugoliaeth.

Dim ond 12fed oedd Breen yn y naid hir yn y Gemau Paralympaidd llynedd, ond fe wnaeth hi ennill aur yn y ras gyfnewid 4x100m ym Mhencampwriaethau'r Byd 2015.

Dros y penwythnos llwyddodd Aled Sion Davies i ennill aur yn taflu disgen, gan dorri record y gystadleuaeth yn y broses.

Fe wnaeth Hollie Arnold hefyd gipio medal aur yn y gystadleuaeth taflu gwaywffon F46 gyda thafliad record byd.