'Pryder difrifol' effaith tai Gwynedd a Môn ar yr iaith

ifor ap glyn, gwyneth glyn, lleucu roberts, myrddin ap dafydd
Image caption Pedwar o'r beirdd a'r llenorion (o'r chwith uchaf gyda'r cloc): Ifor ap Glyn, Gwyneth Glyn, Myrddin ap Dafydd a Lleucu Roberts

Mae nifer o feirdd a llenorion amlwg Cymru wedi mynegi "pryder difrifol" am effaith cynllun i godi miloedd o dai yng Ngwynedd a Môn ar yr iaith Gymraeg.

Mewn llythyr agored maen nhw'n rhybuddio y gallai'r cynllun datblygu, fyddai'n gweld dros 7,000 o dai yn cael eu hadeiladu, "danseilio'r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd olaf".

Daw'r rhybudd ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mȏn ym mis Awst.

Dywedodd cynghorau Gwynedd a Môn mewn datganiad ar y cyd fod "effaith y cynllun ar yr iaith Gymraeg wedi ei ystyried yn ofalus a thrylwyr".

'Dieithriaid yn dod mewn'

Mae'r llythyr yn honni bod y cynllun presennol yn "amrwd a meiopig", gan ychwanegu y byddai "gyfystyr â hunanladdiad diwylliannol".

"Dyma rai o gadarnleoedd olaf yr iaith," medd y llythyr.

Image copyright PA
Image caption Mae'r Cynllun Datblygu yn nodi bwriad i godi 7,184 o dai newydd dros 15 mlynedd

"Rydym ninnau fel llenorion, yn drigolion Gwynedd a Môn, yn byw'n bywydau trwy'r Gymraeg, yn creu ynddi ac yn ennill ein bywoliaeth trwyddi - fel y gwna miloedd o'n cyd-drigolion.

"Mae'n adnodd diwylliannol ac economaidd amhrisiadwy. Ni fyddai neb yn gwadu bod oblygiadau ieithyddol pellgyrhaeddol i gynllun mor enfawr â hwn."

Ymhlith y 28 sydd wedi llofnodi'r llythyr mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, y Prifeirdd Myrddin ap Dafydd, Rhys Iorwerth a Cen Williams, a'r Prif Lenorion Lleucu Roberts ac Annes Glynn.

Wrth siarad ar raglen Taro'r Post dywedodd yr Athro Derec Llwyd Morgan, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ac un arall sydd wedi llofnodi'r llythyr, fod angen cynnal astudiaeth i effaith y cynllun ar y Gymraeg yn yr ardal.

Image copyright Iolo Penri
Image caption Mae'r Athro Derec Llwyd Morgan yn un o'r 28 sydd wedi arwyddo'r llythyr

"Mae 'na rai ardaloedd yma... lle mae'r diwylliant wedi edwino'n ofnadwy am fod 'na lawer o dai wedi'u codi a dieithriaid yn dod i mewn," meddai.

"Mae mewnfudo yn bwnc llosg mawr iawn ers Brexit, ond does dim hawl gennym ni Gymry i sôn am fewnfudo i'r rhannau hynny o'r wlad sydd yn weddol gryf eu Cymraeg o hyd, ac sy'n debyg o gael eu glastwreiddio ymhellach gan newydd-ddyfodiaid."

Cynghorau wedi asesu

Mewn ymateb dywedodd y cynghorau eu bod eisoes wedi cynnal asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg "a fu'n sail i Asesiad o Gynaliadwyedd ailadroddol y Cynllun".

"Mae'r Cynllun yn cynnwys polisïau sy'n hyrwyddo economïau lleol iach, tai digonol ar gyfer trigolion presennol, cefnogi twf cymedrol mewn pentrefi sydd mewn llawer o achosion wedi'i gyfyngu i dai fforddiadwy, a rheoli twf tai mewn aneddleoedd sydd yn fwyaf deniadol i fewnfudo," medd y datganiad.

"Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys polisi sy'n nodi pryd y byddai angen Datganiad Iaith neu Asesiad Iaith, a fyddai'n sicrhau bod mesurau lliniaru yn cael eu cynnwys yn y datblygiad arfaethedig.

"Os na ellir rheoli'r risgiau, yna byddai'r cais yn cael ei ystyried fel un sy'n cael effaith o sylwedd, ac felly gellid ei wrthod."