Darganfod corff y tu ôl i westy yn Wrecsam

Hand Image copyright Google
Image caption Cafwyd hyd i'r corff y tu ôl i westy'r Hand ddydd Mawrth

Mae'r heddlu'n dweud bod corff wedi ei ddarganfod y tu ôl i westy yn Wrecsam.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r darganfyddiad y tu ôl i westy'r Hand ar Stryd Holt am 12:17 ddydd Mawrth.

Dywedodd y llu eu bod yn trin y farwolaeth fel un "anesboniadwy".

Mae swyddogion yn gwneud ymholiadau i adnabod y corff, ac mae'r crwner wedi ei hysbysu am y farwolaeth.