Brwydro canser a'r Sioe Fawr

Mae Bryn Roberts sy'n ffermio yng Nghaernarfon yn edrych ymlaen i fynd i'r Sioe Fawr i farnu defaid yr wythnos nesa'. Ond yn Llanelwedd y flwyddyn ddiwetha' roedd bywyd y dyn ifanc 23 oed ar fin newid yn gyfan gwbwl, er nad oedd yn gwybod hynny ar y pryd.

Bu'n adrodd hanes ei frwydr â leukemia, a sut y newidiodd ei fywyd yn llwyr, â Cymru Fyw.

Image caption Bryn a'i fam yn yr ysbyty

O'n i 'di mynd i'r Royal Welsh Gorffennaf dwetha' ac oedd 'na sbotiau coch yn ymddangos drostai. Es i at griw y St John Ambulance a medden nhw mai heat rash oedd o, a dweud wrtha i am wisgo shorts yn lle trowsus, am ei bod hi mor boeth.

Oedd y sbotiau 'ma ar fy nghorff i trwy'r ha' ond wnes i ddim meddwl mwy am 'mod i'n meddwl mai heat rash oedd o, felly wnes i ddim mynd at y doctor.

Erbyn diwedd Hydref o'n i'n ddiawledig o sâl. O'n i 'di bod at y doctor a chael antibiotics. Dwi'n cofio mynd i Blackpool ar fy ngwyliau, a phan ddes i adra' es i'n ôl at y doctor a chael mwy o dabledi a mynd nôl i'r gwaith.

Ond o'n i'n godro ac o'n i'n chwydu stwff gwyn yn y parlwr. Oedd fy ngeg i'n ddoluriau i gyd a marciau dros fy mreichiau, o'n i'n meddwl mai pigiadau oeddan nhw.

'Yn wan ac yn methu cerdded'

Es i at y deintydd oherwydd y doluriau yn fy ngheg, ac oedd o'n meddwl taw gum disease oedd o, ac mi dynnodd fy nant. Ond ddaru o ddim stopio gwaedu am wythnos ac erbyn hyn o'n i'n sâl iawn, felly mi es i Ysbyty Gwynedd. Ges i fy anfon i Ysbyty Glan Clwyd yng nghanol nos ac erbyn 4:30am bore Sul ro'n i'n wan ofnadwy ac yn methu cerdded.

Image caption "Fe wnaeth y nyrsus gymryd ata' i am fy mod i mor ifanc"

Ro'n i ar ben fy hun pan ddywedon nhw mai leukemia oedd arna' i. Roedd Taid 'di rhoi lifft i mi, ond roedd o wedi gorfod mynd adra' i feedio'r gwartheg. Do'n i ddim yn gwybod beth oedd o, na pha mor ddifrifol oedd o. O'n i'n meddwl y byswn i nôl yn godro erbyn y bore Llun.

Mi ddywedon nhw bod chance go lew gen i, ond ro'n i di bod yn diodde' ers misoedd heb wybod.

Yn dilyn hynny fe ges i bedwar mis go hegar yn Ysbyty Gwynedd ar ward lle o'n nhw'n delio â chanser. Oedd 'na lot yn marw yn lle mynd adre. O'n i'n teimlo'n ofnus ofnadwy. O'n i'n poeni y bysa rhaid i fi werthu defaid am nad oedd neb yn gallu edrych ar eu holau nhw, ond o'n i'n lwcus mi wnaeth Taid a ffrindiau a chymdogion gadw petha' i fynd tra bo' fi'n yr ysbyty.

'Colli gwallt a mynd yn ddall'

Yn ystod y pedwar mis ges i dri chwrs o chemotherapi, ac mi oedd 'na lot o side effects. Oedd 'na rash mawr ar fy nghorff i ac o'n i'n colli pwysau. Adeg y trydydd rownd o chemo, nes i golli fy ngwallt i gyd ac es i'n ddall. Oedd o'n brifo'n ofnadwy pan o'n i'n dechra gweld eto. Mi ro'n nhw 'di warnio fi y galla' hyn ddigwydd, ond wnes i ddim meddwl pa mor extreme fysa fo.

'Ffarmwrs yn wael am edrych ar ôl eu hunain'

Ar ôl bod yn sâl dwi'n parchu mwy ar fywyd. Mi o'n i'n feedio'r gwartheg cyn feedio fy hun... rŵan dwi'n feedio fy hun cyn eu feedio nhw.

Mae ffermwyr yn wael am edrych ar ôl eu hunain. Dyna pam es i ddim at y doctor, ro'n i'n rhy brysur, doedd gen i ddim amser, ond ma' isho i ffarmwrs fod yn fwy parod i fynd at y doctor. Arglwydd, mae ffermwyr yn wael am hynny. Byswn i'n dweud gwnewch amser i'ch iechyd, dwi 'di dysgu does dim pwynt gweithio'n rhy galed.

Er mod i wedi blino, dwi nôl wrth fy ngwaith erbyn hyn ac yn mynd nôl i'r ysbyty bob tri mis. Rydw i wedi dechra' dangos gwartheg duon mewn sioeau. Y tro cynta' i mi wneud hyn oedd yn Sioe Caernarfon ddechrau'r mis 'ma, a ges i gyntaf. Fydda i'n mynd i'r Royal Welsh i farnu defaid, ond dim ond am un noson, am fod y doctoriaid 'di dweud bod y Royal Welsh yn beryg os ti 'di cael canser.

Pan ti'n mynd trwy ganser, mae'r cyfan yn y meddwl. Mae'n rhaid bod yn bositif a meddwl dydy hwn ddim yn mynd i drechu fi. Rhaid bod yn bositif fy mod i'n mynd i wella.