Ymosodiad Caerdydd: Cyhuddo dau o lofruddiaeth

stryd theodore Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad yn Stryd Theodore yn oriau man y bore ddydd Iau

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn mewn ymosodiad yn ardal Adamsdown, Caerdydd.

Bu farw Sean Kelly, 37 oed o Gaerdydd, o'i anafiadau yn dilyn yr ymosodiad.

Fe fydd dyn 18 oed a dyn 45 oed yn ymddangos ger bron ynadon y ddinas fore Mercher i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.

"Rydyn ni'n parhau i apelio ar unrhyw un all fod â gwybodaeth i gysylltu gyda ni os nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd, Richard Jones.

Image caption Roedd Mr Kelly yn dad i ddau o blant

Bu farw Mr Kelly yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ddydd Sul, yn dilyn ymosodiad yn ardal Adamsdown y ddinas yn oriau mân y bore ddydd Iau.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Stryd Pearl, Stryd Theodora neu Broadway y ddinas i gysylltu â nhw.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Sean Kelly ei fod yn ddyn oedd yn "byw ei fywyd i'r eithaf".

"Roedd hefyd yn fab, tad, brawd ac ewythr gwych. Roedd yn dad cariadus i'w ddau o blant a bydd colled fawr ar ei ôl. Hoffem breifatrwydd ar yr adeg hon er mwyn galaru."