Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr

tns Image copyright Getty Images

Mae'r Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr yn yr ail rownd ragbrofol wrth iddynt gael eu trechu gan bencampwyr Croatia, Rijeka.

Fe adeiladodd yr ymwelwyr ar eu mantais o ddwy gôl i ddim yn fuan yn yr hanner cyntaf wedi i Florentin Matei roi'r bêl yng nghefn rhwyd y Seintiau.

Aeth Rijeka ymlaen yn yr ail hanner i gynyddu eu mantais, gyda goliau gan Mario Gavranovic, Alexander Gorgon a Stefan Ristovski.

Fe lwyddodd Adrian Cieslewicz i sgorio gôl gysur i'r tîm cartref, ond roedd Rijeka eisoes wedi chwalu gobeithion y tîm o Groesoswallt rhag mynd ymhellach yn y gystadleuaeth, gan eu trechu o 1-5 ar y noson a 1-7 ar gyfanswm goliau.