Gwrthdrawiad A55: Dyn wedi marw a dynes wedi'i hanafu

A55 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A55 ger pentref Dobshill yn Sir y Fflint

Mae dyn wedi marw a dynes mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A55 yn Sir y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad ger pentref Dobshill am 22:12 nos Fawrth.

Bu farw dyn 83 oed yn y digwyddiad, ac mae dynes 76 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un welodd gar Vauxhall Corsa glas yn gyrru yn yr ardal cyn y digwyddiad.