Darganfod corff dyn mewn parc ym Mhontypridd

Pontypridd

Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod corff dyn wedi'i ganfod mewn parc ym Mhontypridd fore Mercher.

Cafodd y llu eu galw i Barc Ynysangharad yn y dref ychydig wedi 07:00.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y farwolaeth fel un "anesboniadwy" a bod eu hymchwiliad yn parhau.

Cafodd y parc ei gau gan yr heddlu am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor i'r cyhoedd.