Chwaraeon Cymru: 'Angen gwelliannau' medd adroddiad

chwaraeon cymru

Mae adolygiad annibynnol wedi galw ar Chwaraeon Cymru i gymryd camau brys i wella'r ffordd maen nhw'n rheoli perfformiad a datblygu sgiliau o fewn y corff.

Dywedwyd fod y rhan fwyaf o'r rheiny gafodd eu cyfweld ar gyfer yr adroddiad wedi dweud nad oedd sgiliau staff wedi datblygu ar yr un cyflymder â newidiadau y tu hwnt i'r sefydliad.

Ychwanegodd yr adolygiad, gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, nad oedd perfformiad gwael wastad yn cael ei reoli yn y ffordd iawn.

Mae'r corff, sydd â chyllideb flynyddol o £22m, yn gyfrifol am hyrwyddo chwaraeon elît ac ar lawr gwlad.

'Diffyg cydweithio'

Roedd nifer o gyrff oedd wedi gweithio gyda Chwaraeon Cymru wedi dweud mai "ychydig iawn o wybodaeth nad oedden nhw'n ei wybod yn barod" yr oedden nhw'n ei gael ganddynt.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod angen datganiad polisi brys gan y llywodraeth er mwyn ei gwneud hi'n glir beth yw rôl cyrff gan gynnwys Chwaraeon Cymru wrth gynyddu lefelau ymarfer corff.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans y dylai Chwaraeon Cymru arwain datblygiad strategaeth hir dymor newydd ar gyfer chwaraeon a hamdden yng Nghymru, un fyddai'n ymateb i bolisi'r llywodraeth.

Llynedd cafodd bwrdd Chwaraeon Cymru eu gwahardd dros dro gan y llywodraeth o gwmpas yr un adeg ac y cafodd rhannau o'r adroddiad eu datgelu i BBC Cymru.

Image caption Dywedodd Rebecca Evans fod dryswch weithiau dros union rôl Chwaraeon Cymru

Cafodd ei gomisiynu gan y cadeirydd Paul Thomas, gafodd ei ddiswyddo'n ddiweddarach ynghyd â'r dirprwy gadeirydd Adele Baumgardt, oherwydd yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel "dirywiad anadferadwy yn y berthynas".

Fe wnaeth yr adroddiad argymell na ddylid gwahanu'r gwaith ar chwaraeon elît a chwaraeon ar lawr gwlad, er mai "ychydig iawn o gydweithio" oedd wedi bod rhwng adrannau perthnasol Chwaraeon Cymru tan yn ddiweddar.

Roedd yn canmol y sefydliad am eu perthynas a chyrff eraill ar lefel elît, er yn dweud eu bod yn tueddu i gymryd gormod o glod am lwyddiannau ar adegau.

Cafodd rôl ymgynghorwyr hefyd ei feirniadu gan yr adolygiad, fodd bynnag, ac yn lle hynny cafwyd argymhelliad y dylai Chwaraeon Cymru ganolbwyntio mwy ar hyfforddi staff yn fewnol.

'Ychwanegu gwerth'

Roedd hi'n "annheg" rhoi'r bai i gyd ar y corff am feirniadaeth yn ymwneud ag iechyd ac addysg, meddai'r adroddiad, ond roedd awdurdodau lleol weithiau'n teimlo bod rhywfaint o "bellter" rhyngddyn nhw a'r corff er gwaethaf disgwyliad eu bod yn cydweithio ar raglenni.

"Yn y bôn, barn partneriaid Chwaraeon Cymru oedd y dylai'r sefydliad fod yn ychwanegu gwerth; bod yn arbenigwyr yn eu maes, yn ffrind beirniadol, ffynhonnell o gyngor, tystiolaeth a dealltwriaeth, ac yn ddylanwadol fel sianel i sectorau ac adrannau polisi eraill o fewn y llywodraeth, neu arbenigwyr allanol allai ddarparu dealltwriaeth a gwerth ychwanegol.

"Yn hytrach, yr argraff oedd ei fod yno i ddarparu grantiau, buddsoddi, yn gorff oedd yn eithaf argymhellol ac anhyblyg yn eu penderfyniadau cyllid, oedd ddim yn ystyried blaenoriaethau ehangach y rheiny oedd yn derbyn cyllid, ac oedd yn blaenoriaethu chwaraeon cystadleuol, perfformiad ac elît yn hytrach na chwaraeon cymunedol."

Mae Chwaraeon Cymru wedi cael cais i ymateb.