AC yn galw am frechlyn HPV i bawb yng Nghymru

HPV Image copyright Thinkstock
Image caption Feirws HPV

Dylai brechlyn sy'n amddiffyn yn erbyn feirws sy'n achosi 5% o ganserau'r byd fod ar gael i bawb ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae hyn er gwaetha' penderfyniad ddydd Mercher gan bwyllgor o arbenigwyr i beidio argymell brechu bechgyn yn eu harddegau.

Ers 2008 mae merched 12 i 13 oed yn cael y brechiad yn erbyn y Feirws Papiloma Dynol (HPV) sy'n eu gwarchod rhag canser ceg y groth yn yr ysgol, ond mae'r feirws hefyd yn gysylltiedig â nifer cynyddol o achosion o ganser yn y pen a'r gwddf mewn dynion.

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, yn dweud y dylai'r brechlyn gael ei gynnig i bawb ac ni ddylai fod yn ddibynnol ar "loteri" sy'n cael ei diffinio gan ryw unigolyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod am ddilyn argymhellion y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Image caption Mae merched 12 i 13 oed wedi bod yn cael cynnig brechiad HPV ers 2008

I'r teulu Powell o Gaerdydd, mater o iechyd cyhoeddus yw sicrhau bod yr un rhaglen frechu ar gael i ferched a bechgyn i'w diogelu yn erbyn y feirws.

Mi gafodd Sioned Powell, 17 oed a Heledd Powell, 14 oed, eu brechu yn yr ysgol tra na chafodd eu brawd Dafydd gynnig y brechlyn tra'n ddisgybl.

Mae'r ddwy yn cytuno bod angen amddiffyn bechgyn yn eu harddegau hefyd.

"Dwi'n credu ei fod e'n rhywbeth sylfaenol, mae'n bwysig iawn i bob merch a bachgen gael nhw, nid er lles tegwch ond er lles iechyd i bawb, mae pawb yn cael yr un cyfle, mae pawb yn ddiogel," meddai Sioned.

'Annheg'

Mae mam y plant, Thoma Powell, hefyd yn meddwl bod y system bresennol yn gwahaniaethu ar sail rhyw.

"Dwi'n meddwl ei fod yn annheg, mae'n siomedig bod fy mab ddim wedi cael y siawns i gael y brechiad a nawr mae'n rhy hen i fi ddweud wrtho fe - bydd yn rhaid iddo fe benderfynu drosto fe ei hun i gael y pigiad," meddai.

"Dwi'n credu ei fod yn bwysig bod pawb yn ei gael e tra bo nhw'n blant."

Bellach mae 'na alwadau gan arbenigwyr i frechu bechgyn wedi cynnydd yn nifer yr achosion o ganser y pen a'r gwddw mewn dynion sy'n cael eu hachosi gan HPV.

Mae Dr Mererid Evans, ymgynghorydd oncoleg yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, yn gwneud ymchwil i HPV.

"Rwy'n trin cleifion â chanser y pen a'r gwddf a chanser yr oroffaryncs, sef y rhan o'r geg a'r gwddf sy' reit yng nghefn y gwddf, ac mae'r math yma o ganser yn gallu cael ei achosi gan HPV.

"Ma' cyfraddau'r canser yma'n cynyddu'n ddramatig yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwetha' - ma' nhw wedi dyblu a dros y 15 mlynedd diwetha' wedi treblu," meddai Dr Evans.

"Yn ogystal â chanser yr oroffaryncs ma' mathau eraill o ganser sy'n cael eu hachosi gan HPV yn cynyddu - fel canser yr anws - ac mae'r cynnydd yma'n digwydd mewn dynion."

Mae HPV yn gyffredin iawn - bydd y mwyafrif ohonom yn cael ein heintio gan y feirws rhywbryd yn ystod ein bywydau heb unrhyw effeithiau hir dymor - ond mewn canran fach o bobl, mae HPV yn gallu parhau yn y corff gan achosi canser yn y dyfodol, ar ôl 10, 20 neu 30 mlynedd.

Mae dros 100 o wahanol fathau o HPV, yn ogystal ag achosi canser ceg y groth, gallai haint â mathau eraill o HPV achosi:

  • Defaid ar yr organau rhywiol;
  • Canser gweiniol neu ganser fylfol;
  • Canser yr anws neu ganser y pidyn;
  • Rhai mathau o ganserau'r pen a'r gwddf;
  • Defaid ar y laryncs neu dannau'r llais.

Ffynhonnell: GALW IECHYD CYMRU

Yn gynharach eleni mi gyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun i frechu dynion hoyw hyd at 45 oed ar y gwasanaeth iechyd, ond i fechgyn yn eu harddegau, byddai'n rhaid talu am frechlyn sy'n gallu costio dros £300.

Image caption Angela Burns AC yw llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd yng Nghymru

Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, dylai'r brechlyn fod ar gael i bawb.

"Dwi am weld brechlyn HPV ar gael i bawb yng Nghymru. Dwi ddim yn credu y dylwn ni gael system sy'n ddibynnol ar 'loteri' sy'n cael ei diffinio gan ryw unigolyn," meddai.

Mae bechgyn yn cael eu brechu mewn sawl gwlad gan gynnwys Canada, Awstralia ac America, ac mi fyddai Cymru'n gallu bod ar flaen y gad, yn ôl Dr Mererid Evans.

"Dwi'n meddwl bydde fe'n gyfle i Gymru arwain y ffordd a gwneud hyn cyn gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, mae'n fater pwysig i'n bechgyn ni a byddwn i'n hoffi gweld hyn yn digwydd yn fawr."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dilyn argymhellion Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio Llywodraeth Prydain a bod dim cynlluniau ganddi i ymestyn y rhaglen frechu i gynnwys bechyn yn eu harddegau.