Llifogydd yn creu problemau yn y gogledd

Llifogydd Image copyright @ALEXHJ25
Image caption Llifogydd yn y Rhyl

Mae glaw trwm wedi achosi trafferthion yn y gogledd, gyda llifogydd yn golygu y bydd ysgolion a ffyrdd ar gau.

Fe rybuddiodd Heddlu'r Gogledd fod amodau gyrru yn anodd ar yr A55 ger Bae Colwyn, a bod achosion o lifogydd ar ffyrdd eraill hefyd.

Yn Sir Ddinbych mae llifogydd wedi golygu na fydd Ysgol Uwchradd Prestatyn ar agor ddydd Iau oherwydd llifogydd yng nghoridorau'r ysgol, ac mae trafferthion hefyd yn Ysgol Clawdd Offa.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod llifogydd wedi cau nifer o ffyrdd yn ardaloedd Y Rhyl, Rhuddlan a Phrestatyn, gyda ffyrdd yn Rhuddlan yn arbennig o ddrwg.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Fe lifodd dŵr i adeiladau ac achosi trafferthion ar y ffyrdd

Y ffyrdd sydd ar gau:

  • Waterfall Road, Dyserth
  • Pen y Maes, Rhyl
  • Garford Road, Rhyl
  • Ffordd Derwen, Rhyl
  • Vale Road, Rhyl
  • Cefndy Road, Rhyl
  • Oakhill Drive, Prestatyn
  • Ffordd Penrhwylfa, Prestatyn
  • Ffordd Parc Bodnant, Prestatyn
  • Vicarage Lane, Rhuddlan

Mae'r awdurdod hefyd wedi cau canolfannau hamdden Y Rhyl a'r Nova ym Mhrestatyn, a bydd canolfan hamdden Prestatyn hefyd yn cau oherwydd difrod llifogydd.

Mae staff y cyngor yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys i geisio ymateb i'r sefyllfa.

Image caption Ysgol Uwchradd Prestatyn