Cynllun i greu 7,000 o swyddi i'r Cymoedd

Merthyr Tydfil Image copyright Matt Cardy/Getty Images
Image caption Un flaenoriaeth yw gwella iechyd, lles a thwristiaeth yn y cymoedd

Mae cynllun i greu 7,000 o swyddi ac adfywio cymoedd y de wedi ei gyhoeddi.

Dan y cynllun, bydd chwe thref yn ganolfannau ar gyfer twf economaidd yn y cymunedau sydd rhwng Castell-nedd a Chwmbrân.

Mae'r gweinidog sydd yng ngofal y cynllun, Alun Davies, wedi bod yn arwain tasglu ac mae eisoes wedi galw am "ddadeni diwydiannol" ar gyfer y cymoedd, ac i hynny fod yn fwy na "ffyrdd newydd sy'n sgleinio".

Dywedodd hefyd y byddai'n gweithio i symud swyddi o'r sector cyhoeddus i'r cymoedd pan yn "addas".

Mae'r tasglu wedi trefnu cyfres o ymgynghoriadau dros y flwyddyn i ddod.

Y ddogfen drafod fydd Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, gyda'r blaenoriaethau'n cynnwys swyddi a sgiliau gwell, gwasanaethau cyhoeddus gwell a chymunedau cryfach.


Mae'r tasglu'n ceisio:

  • Cau'r bwlch cyflogaeth rhwng y cymoedd a gweddill Cymru drwy gael 7,000 yn fwy o bobl i mewn i waith erbyn 2021 a chreu "miloedd o swyddi newydd gwell, mwy diogel a chynaliadwy";
  • Gweithio i wella gwasanaethau cyhoeddus;
  • Gwella iechyd, lles a thwristiaeth drwy ystyried datblygu parc tirwedd i'r cymoedd fydd yn gwneud y gorau o'r amgylchedd naturiol.

Dywedodd Mr Davies: "O'r dechrau, dwi wedi bod yn glir na fydd hwn yn achos arall o lywodraeth yn penderfynu beth sy'n iawn i'r cymoedd.

"Os ydyn ni am lwyddo, rhaid i gymunedau lleol a phobl leol fod wrth galon ein gwaith."

Y canolfannau dan sylw fyddai:

  • Pontypridd a Threfforest - tai, swyddfeydd, diwydiant a siopau;
  • Caerffili ac Ystrad Mynach, Cwmbrân a Merthyr Tudful - tai, swyddfeydd a diwydiant;
  • Castell-nedd - tai, diwydiant, digidol ac ynni;
  • Glyn Ebwy - Parc busnes i'r diwydiant moduro.
Image copyright Matt Cardy/Getty Images

Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, awdur A New Agenda For The Valleys yn 1988, fod angen buddsoddi mewn trafnidiaeth o safon uchel a gwella tai er mwyn creu cysylltiad gwell rhwng trefi'r cymoedd.

Ychwanegodd mai dyna'r ffordd o annog pobl ifanc broffesiynol i fyw mewn llefydd fel Pontypridd.

"Pontypridd yw'r porth i'r cymoedd ac fe ddylai gyflawni rôl o fod yn ganolfan gyflogaeth i'r cymoedd uwch a chanol", meddai.

"Byddai cwmnïau fel Admiral, dwi'n siŵr, yn gallu creu atynfa drwy leoli rhai o'u swyddfeydd ym Mhontypridd.

"Fe fyddai hynny'n cynorthwyo rhyng-ddibyniaeth ein dinasoedd a'n cymoedd... wedyn fe fydd pawb ar eu hennill."

'Cynllun PR sgleiniog'

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi bod y cynllun yn fawr ddim mwy na "chynllun PR sgleiniog".

Dywedodd Russell George bod "diffyg arweiniad strategol" gan Lywodraeth Cymru wedi effeithio'r ardal, a bod unrhyw fuddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd "wedi ei wastraffu ar y cyfan".

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn "hanfodol" bod cymunedau'r cymoedd yn "cael y parch y maen nhw'n haeddu, a bod cyfleoedd go iawn yn cael eu creu i bobl".

Dywedodd Leanne Wood na allai'r cynllun yma gael ei "ychwanegu at y rhestr o addewidion gafodd eu torri a chynlluniau wnaeth fethu".