Angen pwerau ychwanegol i ddelio â chwn sy'n ymosod ar ddefaid?
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Torcalonnus': Profiad ffermwr o golli defaid

20 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 08:26 BST

Mae angen pwerau ychwanegol ar yr heddlu i ddelio efo cŵn sy'n ymosod ar ddefaid, yn ôl uned arbenigol Heddlu'r Gogledd.

Un sydd wedi cael ei effeithio yn uniongyrchol gan gŵn sy'n lladd defaid ydy Twm Hughes, sy'n ffermio ym Morth yr Hir Faen, ger Porthmadog.

Efo traeth poblogaidd y Greigddu a llwybr yr arfordir gerllaw, mae o wedi cael sawl achos o gŵn yn ymosod ar ei ddefaid.