Llifogydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Glaw yn achosi llifogydd sydyn yn y Gogledd

19 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 21:12 BST

Achosodd glaw trwm drafferthion mewn rhannau o'r gogledd ddydd Mercher.

Dywedodd y Gwasanaeth tân eu bod wedi cael nifer o alwadau 999 wedi i'r glaw achosi llifogydd sydyn yn y Rhyl, Prestatyn, Abergele, Rhuddlan a Llanelwy, gan effeithio ar ysgolion ysbytai a ffyrdd.

Mae lefel y dŵr bellach wedi gostwng.