Dim trydaneiddio y rheilffordd hyd at Abertawe
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Tro pedol' trydaneiddio yn 'warthus', yn ôl AC

20 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 10:21 BST

Mae'r penderfyniad i beidio trydaneiddio'r rheilffordd i'r gorllewin o Gaerdydd yn "benderfyniad gwarthus", yn ôl AC lleol.

Dywedodd Dr Dai Lloyd, sy'n cynrychioli Plaid Cymru yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, fod cyhoeddiad Llywodraeth y DU fore Iau yn "dro pedol sylweddol".

Roedd disgwyl i'r rheilffordd hyd at Abertawe gael ei thrydaneiddio.