Cerddor yn galw am lacio rheol iaith yr Eisteddfod

Pafiliwn

Pythefnos cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag Ynys Môn, mae un o gerddorion amlycaf Cymru wedi dweud bod angen ystyried llacio rheol iaith y Brifwyl i gantorion.

Mae'r pianydd Iwan Llywelyn Jones hefyd yn teimlo bod angen gwthio'r ffiniau, a bod yn "fwy mentrus" o ran y dewisiadau cerddorol.

Yn wreiddiol o Ynys Môn, dywedodd Mr Jones y byddai'n hoffi gweld cerddoriaeth yn cael ei berfformio mewn mwy o ieithoedd, neu roi cyfleoedd i gyfansoddwyr ifanc.

Mewn ymateb dywedodd Elen Elis, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol fod yr ŵyl yn "bodoli i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru".

'Heriol'

Yn siarad ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Jones: "Weithiau dwi'n teimlo falle bod angen i ni edrych ar rywbeth bach mwy mentrus, fel y cyfansoddwyr ifanc neu'r cyfansoddwyr canol oed, cyfansoddwyr sy'n byw yng Nghymru ac yn mentro ar y ffiniau o gerddoriaeth.

"Cerddoriaeth sy'n ymestynnol ac yn heriol i'r cyhoedd. Fyswn i'n licio os fysa na fwy o lwyfan i hynny yn yr Eisteddfod."

Cafodd Mr Jones ei fagu yn Ynys Môn gan dderbyn ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen a'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle enillodd sawl ysgoloriaeth a gwobr am ei berfformiadau a'i ysgolheictod academaidd.

Mae wedi cyflwyno datganiadau unawdol yn neuaddau cyngerdd enwoca'r byd, fel Wigmore Hall, Neuadd Dewi Sant, y Tŷ Opera yn Sydney, a'r Gewandhaus yn Leipzig.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Iwan Llewelyn Jones: 'Angen gwthio'r ffiniau a bod yn fwy mentrus'

Dywedodd hefyd yr hoffai ymestyn allan i'r byd ac edrych ar wahodd diwylliannau eraill draw i'r Brifwyl.

Ychwanegodd bod "angen bod bach yn ddewr", gan awgrymu bod diffyg deunydd fel operau yn y Gymraeg yn golygu bod angen llacio rhywfaint ar reol yr iaith Gymraeg yn ei farn o.

'Meddwl tu allan i'r bocs'

"Mae'n rhaid i gantorion fod yn fwy mentrus a dysgu yn yr iaith wreiddiol i gael y briodas 'na rhwng y geiriau a'r gerddoriaeth yn gyflawn," meddai.

"Fel offerynwyr mi allwn ni chwarae rhywbeth, does 'na ddim iaith."

Ychwanegodd ei fod yn bwysig creu "gŵyl sy'n dangos Cymru ar ei orau, mae'r Gymraeg yn ganolog a hwnna ydy'r peth pwysig, ond dydy o ddim y dechrau a'r diwedd".

"Mae'n rhaid i ni feddwl ymhellach draw, tu allan i'r bocs."

Image caption Mae'r Eisteddfod yn bodoli er mwyn hyrwyddo'r iaith, meddai Elen Elis

Wrth ymateb i'r sylwadau ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd Elen Elis ei bod hi'n "bwysig ein bod ni'n browd o'r iaith Gymraeg".

"Rydan ni'r Eisteddfod yn bodoli i hyrwyddo'r iaith. Mae'n rhan o'n cyfansoddiad ni," meddai.

"Mae'r rheol iaith yn bodoli, pam wnawn ni ddim dathlu hynny? 'Dan ni'n bodoli i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru."

Ychwanegodd fod yr ŵyl wedi ceisio "gwthio'r ffiniau yn artistig dros y blynyddoedd", a bod gwyliau eraill fel Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cynnig llwyfan i hyrwyddo diwylliannau a pherfformio mewn ieithoedd eraill.

Straeon perthnasol