Dim Lolfa Lên ym Môn yn 'golled fawr', yn ôl prif lenor

Y plant wrth eu boddau ym myd y llyfrau yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli'r llynedd
Image caption Ymysg gweithgareddau'r Lolfa Lên dros y blynyddoedd diwethaf roedd stomp farddonol i blant

Mae absenoldeb y Lolfa Lên ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn "golled fawr", yn ôl prif lenor y llynedd.

Ers Eisteddfod 2014, mae Llenyddiaeth Cymru wedi cynnal digwyddiadau llenyddol llai ffurfiol yn y Lolfa.

Dywedodd Eurig Salisbury wrth Taro'r Post bod y gofod wedi "darparu rhywbeth llenyddol ar y maes nad ydy'r Babell Lên yn gallu ei wneud".

Yn lle'r Lolfa, mae Llenyddiaeth Cymru'n cynnig nawdd i gynnal digwyddiadau llenyddol mewn stondinau ar draws y maes.

Yn ôl y bardd Anni Llŷn, fe fydd y drefn newydd yn "wych" ac yn "golygu datblygu partneriaethau newydd".

Cwtogiad mewn grant i'r Eisteddfod

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru, fe fyddai cynnal Lolfa Lên eleni'n golygu "costau ychwanegol sylweddol".

Mae hyn oherwydd cwtogiad yn y "grant ychwanegol" mae'r Eisteddfod yn ei gael gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Eurig Salisbury, enillydd y Fedal Ryddiaith yn 2016 am ei nofel Cai, bod y Lolfa Lên wedi llwyddo am ei bod yn "gwybod yn union beth mae'n trio bod".

"Dwi'n gytud bod y Lolfa ddim yn mynd i fod yno yn Ynys Môn", meddai.

"Mae'n golled fawr. Mae'r lle wedi gallu darparu rhywbeth llenyddol ar y maes nad ydy'r Babell Lên yn gallu ei wneud.

"Mae'r Lolfa yn gwybod yn union be' mae o'n drio bod - rhywle anffurfiol, lle 'dach chi'n gallu mynd a dod fel ag y mynnwch chi...

"Mae'r Babell Lên, dwi'n teimlo, yn syrthio rhwng dwy stôl, mae'n trio bod yn ffurfiol ac eto'n trio bod anffurfiol hefyd."

Image caption Roedd gweithgareddau'r Lolfa Lên yn aml yn eithaf anffurfiol

Ond fe amddiffynnodd cyn-Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn, y penderfyniad gan ddweud y bydd yn "datblygu partneriaethau newydd".

"Mae gennych chi'r Babell Lên, Yr Ŵyl Lên Plant a'r Llannerch yn cynnig digwyddiadau llenyddol... ac mae'r Llannerch a'r Ŵyl Llên Plant yn enwedig wedi magu cefnogaeth yn y blynyddoedd diwethaf", meddai.

"Ac wrth gwrs, dwi'n meddwl ei fod o'n wych bod Llenyddiaeth Cymru yn mynd â llên ar daith o amgylch y maes, achos nid yn unig maen nhw'n rhoi llenyddiaeth mewn llefydd annisgwyl ond hefyd yn datblygu partneriaethau newydd."

Ychwanegodd ei bod hi'n credu fod yr Eisteddfod yn "ymwybodol" o'r hyn oedd yn wahanol am y Lolfa Lên ac y bydd "newidiadau yn natur y Babell Lên" eleni.

Image caption Roedd y Lolfa yn 2014 yn cynnig cyfle i drafod cyfansoddiadau'r wythnos

Un sydd wedi gallu trefnu digwyddiadau llenyddol oherwydd y drefn newydd yw Alaw Griffiths.

Mae hi'n gwneud rhywfaint o waith i gwmni Teithiau Tango, sydd yn cynnal tair sesiwn o farddoniaeth gyda beirdd sydd wedi ysgrifennu am Dde America yn ystod Eisteddfod Ynys Môn.

"'Dan ni ddim 'di gallu gwneud hyn o'r blaen," meddai. "I ni, mae o'n beth positif iawn."

'Arian yn prinhau'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts fod yr ŵyl wedi gwneud newidiadau i rannau eraill o'r maes eleni, gan gynnwys addurno ac addasu maint y Babell Lên, a bod "hynny'n cael blaenoriaeth".

"Roedd rhaid i rywbeth fynd, ac yn anffodus roedd rhaid i ni benderfynu a dweud wrth Lenyddiaeth Cymru na fedran ni gyfrannu'n ariannol [tuag at y Lolfa Lên]," meddai.

"Yn anffodus pan mae arian yn prinhau, a phan wyt ti'n gorfod gwneud dewisiadau, mae'n rhaid i ti flaenoriaethu."

Ychwanegodd nad oedd hynny'n golygu lleihad yn nifer y gweithgareddau diwylliannol ar y maes, gyda digwyddiadau fel yr Ŵyl Chwedlau a'r Ŵyl Gomedi hefyd yn cael eu cynnal eleni.

Image caption Fe fydd digwyddiadau llenyddol, yn ogystal â chanu, yn y Llannerch ar faes y brifwyl eleni

Dywedodd Llenyddiaeth Cymru mewn datganiad: "Mae'r Eisteddfod wedi bod yn hael iawn yn y gorffennol yn rhoi gofod Y Lolfa Lên i Lenyddiaeth Cymru diolch i'r grant ychwanegol maent yn ei derbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

"Eleni, oherwydd cwtogiad yn y grant hwnnw, nid oedd modd i'r Eisteddfod gynnig y safle i ni ym Môn heb gostau ychwanegol sylweddol.

"Mae Llenyddiaeth Cymru wedi penderfynu neilltuo'i holl gyllideb Eisteddfod ar gyfer gwariant llenyddol yn hytrach nac ar adeiladwaith, gan sicrhau fod yr arian yn mynd yn syth i bocedi awduron."