Syr Vince Cable i arwain y Democratiaid Rhyddfrydol

Vince Cable Image copyright Reuters
Image caption Syr Vince Cable gyda'r dirprwy arweinydd newydd, Jo Swinson (chwith)

Mae Syr Vince Cable wedi ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'n olynu Tim Farron, gyhoeddodd ei fod yn rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth yn dilyn canlyniad siomedig i'r blaid yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.

Mae Syr Vince, sy'n 74 oed ac yn gyn-ysgrifennydd busnes, wedi dadlau nad yw Brexit yn anochel.

Prif neges y blaid yn ystod yr ymgyrch etholiadol oedd rhoi dewis terfynol i'r cyhoedd ynglŷn ag amodau gadael yr UE drwy gynnal refferendwm arall cyn y dyddiad gadael sydd wedi'i bennu, ym Mawrth 2019.

Mae Syr Vince wedi dweud bod aelodau Ceidwadol a Llafur yn trafod "Brexit caled" a'i fod yn gweithio gydag ASau i geisio rhwystro hynny rhag digwydd.