Côr Merched Sir Gâr yn paratoi at Eurovision 2017

Cor Merched Sir Gar Image copyright Cyngor Cerdd Sir Gar
Image caption Mae 42 o ferched yn aelodau o'r côr, gafodd ei sefydlu pum mlynedd yn ôl

Mae Côr Merched Sir Gâr yn paratoi i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Corau Eurovision ym mhrifddinas Latfia nos Sadwrn.

Dyma'r tro cyntaf erioed i gystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision gael ei chynnal, gyda dinas Riga wedi'i dewis fel y lleoliad cyntaf i'w llwyfannu.

Roedd Côr Merched Sir Gâr yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru ym mis Ebrill eleni, gan sicrhau mai nhw fyddai'n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Latfia.

Mae gan y côr, sy'n bodoli er pum mlynedd, 42 o aelodau o oedrannau amrywiol ysgol uwchradd.

Drwy gydol yr wythnos mae aelodau'r côr wedi bod yn rhannu eu profiadau o'r daith hyd yma gyda Cymru Fyw.

Image caption Islwyn Evans yw arweinydd Côr Merched Sir Gâr

Arweinydd y côr yw Islwyn Evans, sydd â blynyddoedd o brofiad o arwain corau ac sydd hefyd yn arweinydd côr Ysgol Gerdd Ceredigion.

Dywedodd Mr Evans wrth Cymru Fyw: "Mae'r merched wedi bod yn ymarfer yn galed yn ystod yr wythnosau diwethaf ac wedi gwneud yn rhyfeddol o ystyried fod cymaint ohonynt gydag arholiadau.

"Mae'r merched wedi cynhyrfu i fod yn perfformio yma'n Riga ac mae'n anrhydedd bod y côr cyntaf i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth."

Fel rhan o reolau'r rownd derfynol fe fydd rhaid i'r corau berfformio rhaglen sy'n para chwe munud o hyd.

Fe all y perfformiad gynnwys unrhyw genre sy'n cynrychioli "cymeriad eu rhanbarth neu eu gwlad".

Hefyd yn perfformio yn yr Eurovision fydd corau ieuenctid o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Estonia, Yr Almaen, Latfia, Slofenia a Hwngari.

Straeon perthnasol