Para-Athletau: Medal arian i Kyron Duke am daflu pwysau

Kyron Duke Image copyright PA

Mae Kyron Duke wedi llwyddo i gipio medal arian dros Brydain yn y gystadleuaeth taflu pwysau F41 ym Mhencampwriaeth Para-Athletau'r Byd.

Fe daflodd y Cymro 24 oed bellter o 12.28m yn y rownd derfynol yn Llundain, ond cafodd ei drechu gan Niko Kappel o'r Almaen wnaeth dorri record y byd gyda thafliad o 13.81m.

"Mae'n deimlad gwych, doedd fy mhellter i ddim y gorau ond i gael medal arian, allwch chi ddim bod yn drist am hynny," meddai.

Mae tri o Gymry eisoes wedi ennill medalau aur yn y bencampwriaeth - y neidiwr Olivia Breen, y taflwr disgen Aled Sion Davies a'r taflwr gwaywffon Hollie Arnold.