Coes brosthetig newydd i Ffion Rudman, chwech oed

ffion rudman

Mae merch chwech oed wnaeth golli rhan o'i choes yn dilyn sepsis bellach yn gallu rhedeg eto, ar ôl derbyn coes brosthetig newydd.

Roedd Ffion Rudman o Lansantffraid-ym-Mechain, Powys, yn ddwy oed pan gafodd hi'r salwch.

Roedd hi'n defnyddio coes brosthetig ond roedd hi eisiau un fyddai'n ei chaniatáu i gymryd rhan mewn chwaraeon, rhywbeth doedd ddim ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae hi nawr "wrth ei bodd" ar ôl cael llafn rhedeg gwerth £2,500 sydd yn ei galluogi hi i wneud hynny.

'Emosiynol'

"Mae hi wedi bod yn wych ei gweld hi'n rhedeg mor rhwydd," meddai ei mam, Helen Rudman.

Ychwanegodd ei thad, Frank: "Mae wedi bod yn emosiynol iawn. Os yw hi'n hapusach, rydyn ni yn hefyd. Ffion yw'r canolbwynt."

Y bwriad nawr yw ei bod hi'n gallu gwisgo'r goes brosthetig newydd drwy'r amser, gan ei fod yn llafn amlbwrpas.

"Mae hi wedi cymryd ato'n dda iawn, fyddech chi ddim wir yn sylwi ar y gwahaniaeth... mae'n gwneud yn dda iawn," meddai Craig Edwards, ei hyfforddwr pêl-droed.