Prosiect yn dod o hyd i ffrwythau unigryw o Gymru

Afalau
Image caption Mae degau o fathau unigryw o afalau seidr yng Nghymru, yn ôl yr ymchwil

Mae prosiect gwerth £500,000 sy'n edrych ar hanes perllannau a chynhyrchu seidr yng Nghymru wedi dod o hyd i ffrwythau unigryw o Gymru.

Gobaith Prifysgol De Cymru a Chymdeithas Gellygwin a Seidr Cymru yw creu cofrestr ddigidol o ffrwythau seidr Cymru drwy olrhain eu DNA.

Mae'r canlyniadau hyd yn hyn awgrymu bod degau o fathau o afalau a gellyg sy'n unigryw i Gymru.

Dywedodd y gymdeithas bod y canlyniadau cynnar yn "gyffrous iawn".

'Mwy na'r disgwyl'

Mae'r dadansoddiad o DNA 21 math o afalau a gellyg o berllan canolfan Cymdeithas Gellygwin a Seidr Cymru yn Sir Fynwy yn dangos eu bod yn gynhenid Gymreig.

Roedd 22 math arall o rannau eraill o Gymru hefyd yn ddieithr i'r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yng Nghaint.

"Mae'n gyffrous iawn i ni," meddai Jayne Hunt o'r gymdeithas.

"Mae'r prosiect wedi dod o hyd i lawer mwy o fathau unigryw nac oedden ni'n ei ddisgwyl - ffrwythau sydd, mwy na thebyg, yng Nghymru yn unig ac sydd erioed wedi eu cofnodi o'r blaen.

"I'r gwladgarwyr hynny sy'n caru seidr, efallai mai dyna'n union maen nhw'n chwilio amdano!"

Fel rhan o'r prosiect dwy flynedd ehangach, mae ymchwiliwr yn cydweithio â 14 grŵp cymunedol ar draws Cymru i adnewyddu hen berllannau a cheisio dod o hyd i ardaloedd ble allai coed newydd gael eu plannu.

Mae Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans, sy'n rhan o Brifysgol De Cymru, hefyd yn casglu straeon am y traddodiad o wneud seidr yng Nghymru.

Gobaith y grŵp, yn ôl Dr Emily Underwood-Lee, yw "dangos y bobl tu ôl i'r traddodiad".