Trafodaethau i gael academi chwaraeon i Abertawe

Nofiwr Image copyright Getty Images

Mae trafodaethau ar y gweill i greu academi chwaraeon rhyngwladol a phentref i athletwyr yn Abertawe.

Mae'n debyg bod rhestr wedi'i llunio o leoliadau posib, ac mae cyngor y ddinas wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe, Y Gweilch a phrifysgol y ddinas.

Yn ogystal â gwasanaethu sêr chwaraeon y dyfodol bydd yr adnoddau hefyd ar gael i'r cyhoedd.

Ymhlith y chwaraeon byddai pêl-droed, rygbi, seiclo, hoci a bocsio.

Dywedodd arweinydd y cyngor Rob Stewart: "Ry'n yn siarad am annog plant o oedran cynnar iawn i ymgymryd â chwaraeon ac i ragori. Bydd yn academi llawn chwaraeon.

"Bydd yr academi yn gysylltiedig â rhaglenni rhagoriaeth chwaraeon a hefyd yn ymwneud ag academïau'r Gweilch a'r Elyrch.

"Bydd yr adnoddau yn rhai arbennig ac ar gael i bobl Abertawe."

Ychwanegodd Mr Stewart bod Yr Elyrch a'r Gweilch yn frwdfrydig am y cynllun, a'u bod yn awyddus symud ymlaen yn gyflym.