Hanner cynghorau Cymru yn dal i weddïo cyn cyfarfodydd

Gweddi Image copyright Getty Images

Mae gweddïau Cristnogol yn parhau i gael eu cynnal cyn cyfarfodydd hanner cynghorau Cymru er yr ymdrechion diweddar i gael gwared â'r arfer.

Yn ôl astudiaeth gan y BBC mae 13 cyngor yn gweddïo cyn dechrau cyfarfodydd, mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweddïo ar ddechrau pob cyngor llawn a dyw pum cyngor ddim yn gweddïo o gwbl.

Mae'r Gymdeithas Seciwlar (NSS) wedi bod yn galw am waredu'r arfer gan ddweud na ddylai cynghorau fod yn "glybiau ar gyfer Cristnogion" ond yn ôl yr Eglwys yng Nghymru fe allai gair o weddi fod o fudd.

Er bod galwadau wedi bod yn ddiweddar am gael gwared â'r arfer dyw cynghorau ddim wedi newid eu harferion yn ystod y 18 mis diwethaf a does gan neb gynlluniau i newid.

Pan yn gweddïo cyn i'r trafodaethau ffurfiol ddechrau does dim rhaid i'r rhai sydd ddim yn credu neu sydd o gredoau eraill fod yn bresennol.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ail gyflwyno'r arfer o weddïo ar gais y maer newydd Janice Charles. Roedd y maer o'i blaen yn ddyneiddiwr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn cael "cynrychiolwyr o gredoau gwahanol" i arwain gweddïau.

Pwy sy'n gweddio?

  • Y cynghorau sy'n gweddïo yw Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Fflint, Mynwy, Powys, Torfaen ac Ynys Môn;
  • Y cynghorau sydd ddim yn gweddïo yw Abertawe, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf;
  • Mae cynghorau Sir Penfro a Sir Gaerfyrddin yn rhoi'r dewis i'r cadeirydd ac y mae Cyngor Wrecsam yn gadael i'r maer benderfynu;
  • Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent mai dewis personol y maer oedd y mater ond yn "fwy aml na pheidio" roedd caplan yn cael ei benodi i arwain y gweddïau cyn cyfarfodydd llawn o'r cyngor.

Budd o weddi?

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn dweud y gallai cynghorwyr gael budd o weddi cyn gwneud "penderfyniadau sy'n effeithio ar gymaint o bobl".

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r rhai ohonom sydd â ffydd efallai am roi diolch am y cyfle i wneud gwahaniaeth ac i ofyn am arweiniad Duw ar y penderfyniadau.

"Mae'n bosib bod y rhai sydd heb ffydd yn gwerthfawrogi eiliad dawel i feddwl am y dasg sydd o'u blaenau."

Yn ôl y gyfraith gall cynghorau Lloegr gynnwys amser gweddi neu gadwraeth grefyddol arall, neu gadwraeth gysylltiedig â chred grefyddol neu athronyddol.

Does 'na ddim deddf gyfatebol yng Nghymru ac yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru does dim cyfarwyddyd ar y mater i gynghorau.

'Gwahanu oddi wrth fusnes'

Dywedodd cyfarwyddwr y Gymdeithas Seciwlar, Stephen Evans, fod cael gwared â'r arfer o weddïo yn "caniatáu cynghorwyr ac aelodau o staff i'w hosgoi heb gael eu hesgusodi".

Ychwanegodd: "Ni ddylai cynghorau lleol fod yn glybiau i Gristnogion ac os nad yw gweithredoedd o addoli yn cael eu gwahanu oddi wrth fusnes swyddogol dyw rhyddid pobl na sy'n Gristnogion ddim yn cael ei barchu."