Ffyrdd Caerdydd ar gau wrth groesawu'r Speedway GP

Speedway Image copyright Getty Images
Image caption Mae Stadiwm Principality yn cael ei droi'n drac rasio Speedway unwaith y flwyddyn

Bydd nifer o ffyrdd y brifddinas ar gau ddydd Sadwrn wrth i Gaerdydd groesawu'r Speedway Grand Prix.

Mae disgwyl y bydd tua 45,000 o bobl yn gwylio'r digwyddiad yn Stadiwm Principality, ac mae ardal gefnogwyr o flaen Neuadd y Ddinas hefyd.

Mae Speedway yn gweld beiciau modur yn rasio o amgylch trac hirgrwn ar gyflymder o hyd at 70mya, heb unrhyw frêcs.

Bydd giatiau Stadiwm Principality yn agor am 15:30, gyda'r ras gyntaf yn dechrau am 17:15.

Mae'r trefnwyr wedi rhybuddio y bydd rhagor o systemau diogelwch mewn lle ar gyfer y digwyddiad eleni.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae beiciau Speedway yn gallu teithio ar gyflymder o hyd at 70mya

Mae'r holl fanylion am y ffyrdd fydd ar gau ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.

Bydd system giwio hefyd mewn lle yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog, a bydd bysiau yn cael eu dargyfeirio allan o ganol y ddinas.