Pump wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiad ar yr A470

A470 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Cronfa Ddŵr Cantref ym Mhowys

Mae pump o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd ar yr A470 ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger Cronfa Ddŵr Cantref yn Nant Ddu am 10:00 fore Sadwrn.

Mae'r rheiny anafwyd yn y gwrthdrawiad wedi eu cludo i'r ysbyty.

Bu'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad am ddwy awr wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.