Dyn wedi marw a dau yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad

A4046 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4046 ger pentref Y Cwm

Mae dyn 41 oed wedi marw a dau arall wedi'u hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yng Nglyn Ebwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4046 ger pentref Y Cwm am 22:20 nos Wener.

Dywedodd yr heddlu y bu Peugeot 307 arian mewn gwrthdrawiad â Hyundai i10 arian.

Bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r Peugeot, ac mae teithiwr yn y car hwnnw a gyrrwr yr Hyundai yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.