Gorseddu June Osborne mewn seremoni yn Llandaf

June Osborne
Image caption Mae'r Esgob June Osborne yn olynu Dr Barry Morgan fel Esgob Llandaf

Mae June Osborne wedi ei gorseddu fel Esgob benywaidd cyntaf Llandaf mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth yr Esgob Osborne, gafodd ei chysegru fel 72ain Esgob Llandaf yr wythnos ddiwethaf, gymryd ei gorsedd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Fel rhan o hen draddodiad, roedd yn rhaid iddi ofyn caniatâd i gael mynediad i'r gadeirlan.

Roedd yr Esgob Osborne yna yn cael ei chroesawu gan Ddeon Llandaf, Gerwyn Capon.

Yr Esgob Osborne, sy'n olynu Dr Barry Morgan, yw ail esgob benywaidd yr Eglwys yng Nghymru wedi i Joanna Penberthy gael ei chysegru fel Esgob Tyddewi ym mis Ionawr.

Straeon perthnasol