Aur arall a record byd i Aled Sion Davies

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Aled Sion Davies ei fod "mor falch" ar ôl ennill ei ail aur

Fe wnaeth yr athletwr Aled Sion Davies osod record byd newydd i ennill medal aur yng nghystadleuaeth taflu pwysau F42 ym Mhencampwriaethau Para-athletau'r Byd nos Sadwrn.

Roedd eisoes wedi ennill aur yn y ddisgen F42 yn Llundain, a dyma'r trydydd tro yn olynol i'r Cymro ennill y ddwy gystadleuaeth yn y pencampwriaethau.

Roedd tafliad cyntaf Davies o 16.02 metr yn record i'r pencampwriaethau, cyn iddo guro hynny gyda record byd o 17.52m yn ei ail.

Sajad Mohammadian o Iran wnaeth ennill arian gyda thafliad o 14.44m, a Frank Tinnemeier o'r Almaen gafodd yr efydd.

"Gyda phob parch i Rio, i mi, roedd hon yn fwy," meddai Davies ar ôl ennill.

"Fe ddwedes i wrth fy hyfforddwr ar ddechrau'r flwyddyn 'mod i eisiau record byd ac ennill o flaen y dorf gartref, ac fe wnes i hynny."

Straeon perthnasol