Pryder Cymru a'r Alban am gynllun plant sy'n ffoaduriaid

Plentyn Image copyright PA

Mae Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi ysgrifennu at weinidog mewnfudo'r DU i godi pryderon am y driniaeth o blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.

Mae'r llythyr yn beirniadu "diffyg cynllunio a rhannu gwybodaeth ddefnyddiol" yng nghynllun ailgartrefu Dubs.

Fe wnaeth y Swyddfa Gartref gadarnhau yr wythnos ddiwethaf mai dim ond tua 200 o blant gafodd fynediad i'r DU trwy ddefnyddio'r cynllun, a does dim wedi cyrraedd yn 2017 hyd yn hyn.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo parchu ei addewidion ar ffoaduriaid.

Cytuno cymryd 480

Cafodd "gwelliant Dubs" ei enwi ar ôl yr ymgyrchydd, yr Arglwydd Dubs, ddaeth i'r DU fel plentyn oedd yn ceisio lloches cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd.

Roedd y newid yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth y DU i helpu nifer penodol o blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches, oedd yn cyrraedd Ewrop heb gysylltiadau teuluol.

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno cymryd hyd at 480 o blant ar eu pen eu hunain trwy'r cynllun, ond yna bydd yn cau, gyda gweinidogion yn dweud y byddai cadw ymrwymiad penagored yn annog masnachu pobl.

Image copyright EPA
Image caption Cafodd y gyfraith ei llunio gan yr ymgyrchydd, yr Arglwydd Dubs

Ond mae llythyr ar y cyd rhwng Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Cymru, Carl Sargeant, ac Ysgrifennydd Cydraddoldeb Yr Alban, Angela Constance, yn beirniadu'r ffordd y mae'r cynllun wedi'i redeg.

Mae'r llythyr yn beirniadu'r "diffyg gwybodaeth" sy'n cael ei ddarparu amdano, ac mai dim ond tua 200 o'r 480 o lefydd sydd wedi'u llenwi.

Mae'n cydnabod bod gwagio gwersylloedd ffoaduriaid Calais wedi arwain at "amgylchiadau anodd", ond mae'n dweud bod y ffordd mae'r cynllun yn cael ei redeg yn "amharu ar ein gallu i gynllunio ymlaen llaw".

'Un agwedd'

Dywedodd Gweinidog Mewnfudo'r DU, Brandon Lewis, bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflawni ei addewidion ar y cynllun "cyn gynted â phosib" ac mai nid dyma'r unig gynllun sy'n helpu plant bregus.

"Dim ond un agwedd o ymateb llawer mwy eang yw hon," meddai.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i adleoli 23,000 o bobl o ardaloedd ble mae gwrthdaro ac y llynedd fe wnaethon ni warchod dros 8,000 o blant.

"Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth mae'r Alban a Chymru wedi'i ddarparu ac wedi gwneud yn glir ein bod eisiau ymestyn y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol i weddill y Du fel y gall eu hawdurdodau lleol gymryd rhan yn llawn.