Brexit yn dominyddu'r agenda ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Fawr

Sioe Frenhinol
Image caption Bydd Michael Gove a Lesley Griffiths yn cwrdd ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fore Llun

Mae Brexit wedi dominyddu'r agenda gwleidyddol ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Llun.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Materion Cefn Gwlad Cymru, Lesley Griffiths, gyfarfod Ysgrifennydd Amaeth San Steffan, Michael Gove, am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi ym mis Mehefin.

Dywedodd bod gan Fesur Diddymu Llywodraeth y DU y potensial i "droi'r cloc yn ôl 20 mlynedd" i'r diwydiant amaeth.

Ond mae Mr Gove yn dweud y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn darparu ffermwyr Cymru â "chyfleoedd newydd i dyfu a ffynnu".

Roedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns ymysg y miloedd o ymwelwyr ar ddiwrnod cyntaf gŵyl amaethyddol fwyaf Ewrop.

Image caption Mae Lesley Griffiths wedi cyhuddo Michael Gove o ddangos "difaterwch llwyr am ddatganoli"

Fe wnaeth Ms Griffiths godi pryderon am y ffordd mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno cyfreithiau'r UE i gyfraith Prydain.

Mae pwerau am amaeth a'r amgylchedd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru.

Ond mae'r Mesur Diddymu yn awgrymu y bydd pŵer dros faterion sy'n dychwelyd o Frwsel yn cael eu dal yn San Steffan dros dro.

Maen nhw'n mynnu y byddai hyn yn cynnwys yr hyblygrwydd i'r llywodraethau datganoledig wneud newidiadau wedi'u selio ar anghenion penodol y gwledydd hynny.

'Degawdau am yn ôl'

Ond dywedodd Ms Griffiths bod y sefyllfa yn golygu y byddai gan Gymru lai o bwerau a llai o hyblygrwydd na phan yn aelod o'r UE.

"Mae datganoli wedi'n galluogi i addasu ein polisïau ar gyfer ffermwyr Cymraeg, gyda dealltwriaeth o'u hanghenion gwahanol," meddai.

"Rwy'n pryderu bod y Mesur Diddymu, ynghyd â diffyg trafod Llywodraeth y DU gyda ni i ddeall anghenion ffermwyr Cymraeg, yn golygu y bydd y ddealltwriaeth yma yn cael ei golli ac y bydd y diwydiant yng Nghymru yn mynd degawdau am yn ôl."

Dywedodd Ms Griffiths y byddai'n codi ei phryderon â Mr Gove, gan ei gyhuddo o ddangos "difaterwch llwyr am ddatganoli".

Image caption Roedd Michael Gove ar y maes yn Llanelwedd ddydd Llun

Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas, fydd yn rhannu gweledigaeth y blaid am amaethyddiaeth yn sgil Brexit yn y sioe, bod Mr Gove eisiau bod y person sy'n gwneud penderfyniadau pwysig ar amaeth a'r amgylchedd yng Nghymru.

"Mae Plaid Cymru yn cytuno â'r angen am fframweithiau'r DG wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yr oeddem eisiau gweithio i lunio'r fframweithiau hynny ar gyfer amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd, ond mae agwedd Gweinidogion Torïaidd yn Whitehall yn gwneud hyn yn amhosib," meddai.

"Yr hyn rydym yn weld yn awr yw nid fframweithiau, ond pethau sy'n cael eu gosod."

Cyn ei ymweliad, dywedodd Mr Gove, wnaeth gyhoeddi ddydd Gwener y bydd yn rhaid i ffermwyr ddangos eu bod nhw'n haeddu cymorthdaliadau yn dilyn Brexit, ei fod yn bwriadu "dathlu llwyddiant y diwydiant cig oen yng Nghymru" yn ystod ei ymweliad.

Image copyright UAC
Image caption Dywedodd Glyn Roberts mai "ychydig iawn sydd wedi digwydd" ers tanio Erthygl 50

Cig oen yw traean y bwyd sy'n cael ei allforio o Gymru, ac roedd gwerth £110m i'r economi y llynedd.

Ond mae 90% o'r hyn sy'n cael ei yrru dramor yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd.

Mae undebau amaeth Cymru a Hybu Cig Cymru wedi mynnu bod mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd yn hanfodol.

Cyn ei ymweliad, dywedodd Mr Gove: "Bydd gadael yr UE yn darparu cyfleoedd newydd i'r diwydiant hynod lwyddiannus yma dyfu a ffynnu, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â ffermwyr a chynhyrchwyr i glywed eu barn am sut y gallwn ni yrru'r sector ymlaen."

Dywedodd cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts ddydd Sul ei fod yn "siomedig iawn" gyda'r ffordd y mae trafodaethau Brexit wedi'u cynnal hyd yn hyn, a galwodd ar lywodraethau Cymru a'r DU i gydweithio.

Ar faes y Sioe ddydd Llun dywedodd Mr Roberts fod "cynnydd wedi bod yn araf ar faterion allweddol oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng llywodraethau'r DU a Chymru.

"Mae cynhadledd amaethyddol rhynglywodraethol yn hanfodol i sicrhau cynnydd ar y materion cyfansoddiadol pwysig sy'n rhaid delio â nhw cyn bod grymoedd yn dod yn ôl i Frwsel o Lundain," meddai.

Straeon perthnasol