Bae Cinmel: Dyn yn gwadu llofruddio ei bartner

Anthony Bird a Tracy Kearns Image copyright Wales news service
Image caption Tracy Kearns gyda'i phartner, Anthony James Bird

Mae dyn wedi gwadu llofruddio ei bartner ar ôl i'w chorff gael ei ddarganfod yn dilyn ymgyrch chwilio gan yr heddlu.

Cafodd corff y cyn-reolwr archfarchnad 43 oed, Tracy Kearns, ei ddarganfod ym Mae Cinmel, Conwy ar 13 Mai.

Mae Anthony James Bird, 49, o Fae Cinmel wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Llun.

Fe fydd yn sefyll ei brawf ar 13 Tachwedd.