Plismona llai llym ar gyfer gêm Wrecsam a Chaer eleni

Yr heddlu yn 2014 Image copyright Getty Images
Image caption Bydd y gêm bêl-droed ym mis Tachwedd yn cael ei phlismona yn y ffordd arferol

Mae Comisiynydd Heddlu'r Gogledd wedi dweud ei fod "wrth ei fodd" o gael gwybod na fydd y ddarbi rhwng Wrecsam a Chaer eleni yn cael ei dynodi'n "gêm swigen".

Yn ddiweddar mae gemau rhwng y ddau dîm wedi cael eu plismona'n llym, gyda chefnogwyr oddi cartref yn gorfod teithio iddynt ar drafnidiaeth wedi ei drefnu gan swyddogion y gêm yn unig.

Ond wedi i'r ddwy gêm y tymor diwethaf ddigwydd heb drafferthion, fydd 'na ddim cyfyngiadau o'r fath ar y gêm yn Stadiwm Deva ar 10 Tachwedd.

"Hoffwn ddiolch i'r ddau glwb a'r ddau lu heddlu, Gogledd Cymru a Sir Caer, am eu penderfyniad ar y cyd sydd yn fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin," meddai Arfon Jones.