Cyhoeddi enw dyn fu farw yng ngwrthdrawiad Glyn Ebwy

A4046 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4046 ger pentref Y Cwm

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd ger Y Cwm, Glyn Ebwy nos Wener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4046 ger y pentref am 22:20, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Peugeot 307 arian a Hyundai i10 arian.

Bu farw Mark Perkins, 41, oedd yn gyrru'r Peugeot, yn y fan a'r lle. Mae ei deulu yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Mae teithiwr arall oedd yn y car, yn ogystal â gyrrwr yr Hyundai, yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol ond mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.