'Ymosodiad ar ddynes' mewn canolfan chwarae i blant

lion's den Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad honedig yng nghanolfan The Lion's Den

Mae dynes wedi cael ei harestio yn dilyn ymosodiad honedig ar ddynes mewn canolfan chwarae i blant yn Sir Benfro.

Cafodd yr heddlu eu galw i The Lion's Den yn Hwlffordd yn dilyn ffrae mewn parti i blant ddydd Sadwrn.

Mae'r ganolfan wedi ymddiheuro i'w cwsmeriaid yn dilyn y digwyddiad "hynod ofidus".

Mae'r ddynes 27 oed bellach wedi ei rhyddhau gan yr heddlu, ac mae eu hymchwiliadau yn parhau.

Gwaharddiad

Mewn datganiad dywedodd y ganolfan nad oedden nhw "erioed wedi gweld y lefel yma o drais" o'r blaen.

Roedd dau o'r cwsmeriaid wedi cae "ffrae", meddai'r ganolfan, gan arwain at honiad fod un wedi taro'r llall â'i phen.

Ychwanegodd y ganolfan fod yr ymddygiad hwnnw yn "arbennig o ofidus yn ystod parti plant mewn canolfan chwarae i blant", a bod un ddynes bellach wedi ei gwahardd oddi yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 13:00 ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf i leoliad yn Snowdrop Lane, Hwlffordd yn dilyn adroddiad o ffrae.

"Cafodd dynes 27 oed ei harestio ar amheuaeth o ymosodiad cyffredin a'i rhyddhau'n ddiweddarach dan ymchwiliad."