Dwy ochr i'r cylch

Y 'cylch'

Y bwriad yw dathlu Blwyddyn y Chwedlau ond mae'r cylch haearn sydd wedi ei gomisiynu ger Castell y Fflint yn cael ei weld gan rai fel symbol o orthrwm y Cymry.

Beth?

Mae £395,000 wedi ei glustnodi ar gyfer y cerflun ac mae'n bosib y bydd y cylch yn saith metr o uchder a 30m ar ei hyd. Pan fydd yn agor i'r cyhoedd yn 2018 bydd hi'n bosib i ymwelwyr gerdded arno a mwynhau golygfeydd o'r castell ac ar draws ceg yr afon Dyfrdwy.

Pam?

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r cynllun buddugol yn symbol o goron wedi rhydu ac fe fydd y cerflun yn cynrychioli'r berthynas rhwng teuluoedd brenhinol yn y canol oesoedd a'r cestyll wnaethon nhw eu codi. Mae ei leoliad yn Y Fflint yn nodi trosglwyddo'r goron o un llinach ganoloesol i un arall - digwyddiad sy'n cael ei ddisgrifio yn nrama Richard II gan Shakespeare.

Castell Fflint oedd y lleoliad wrth i Richard II ildio'r goron i Harri IV, digwyddiad sy'n cael ei weld fel un gafodd gryn effaith ar hanes Prydain ac Ewrop.

Meddai'r Ysgrifennydd Diwylliant Ken Skates: "Ar ei anterth fe chwaraeodd Castell y Fflint ran allweddol wrth ffurfio dyfodol Cymru ond hefyd gweddill y DU ac Ewrop."

Ond...

Mae deiseb wedi ei llunio i wrthwynebu'r cylch. Mae'r trefnwyr yn dehongli'r cylch fel symbol o'r 'cylch haearn' o gestyll gododd Edward I er mwyn cryfhau ei reolaeth dros y Cymry.

Mae Izzy Evans, trefnydd y ddeiseb yn dweud mewn erthygl ar Nation.Cymru: "Mae'r cestyll yna'n barod i'n hatgoffa o goloneiddio Cymru. Dylai unrhyw gofebau ry'n ni'n eu codi o hyn ymlaen sefyll i gynyddu'n balchder o'n hanes ein hunain a'n cyndeidiau frwydrodd yn ddewr dros ryddid."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Yr hanesydd- Hefin Mathias "anwybodaeth pobl Cymru o'u hanes"

Symboliaeth wahanol

Roedd Castell y Fflint yn un o'r cestyll cyntaf iddo eu codi yng Nghymru wedi'r ymgyrch filwrol lwyddiannus yn erbyn Llywelyn yn 1277.

Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Cofeb Llywelyn ap Gruffydd, Cilmeri: Oes angen rhagor o gofebau i nodi cyfraniad y Cymry eu hunain?

Ceisiodd y Cymry adennill tir yn 1282 ond aflwyddiannus oedd yr ymgyrch hon yn y pendraw.

Yn ogystal ag adnewyddu rhai o gestyll ei dad, roedd Edward I yn benderfynol o osgoi trydydd gwrthryfel ac felly aeth ati i godi cestyll Biwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech i gwblhau 'cylch' o gadernid yn nhiroedd y gogledd. I rai dyma ddechrau go iawn ar ddarostyngiad y Cymry fel cenedl.

Ymateb?

Ddydd Mercher 26 Gorffennaf wedi i filoedd o bobl arwyddo'r ddeiseb, cyhoeddodd Ken Skates y bydd 'na ailfeddwl:

Dywedodd y Gweinidog y bydd 'na adolygiad o'r cynlluniau ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yn Y Fflint.