Ffermwr o Sir Benfro yn ennill gwobr Syr Bryner Jones

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Image copyright Sioe Llanelwedd
Image caption Mr Laurence Harris a'i wraig Mrs Helen Harris yn derbyn y wobr gan Llywydd y Sioe Frenhinol Mr Brian Jones.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi mai ffermwr llaeth o Abercych, Sir Benfro yw enillydd gwobr goffa Syr Bryner Jones 2017.

Daeth cadarnhad ddydd Llun mai Mr Laurence R Harris o Ffosyficer, Boncath, Sir Benfro oedd yn fuddugol yn dilyn ei 'gyfraniad oes i'r diwydiant llaeth yng Nghymru'.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi yn flynyddol am lwyddo mewn sector arbennig yn y diwydiant ffermio yng Nghymru.

Mae Mr Harris a'i wraig wedi datblygu busnes sylweddol yn gwerthu cynnyrch llaeth o'r enw 'Daioni'.

Ar ol derbyn y wobr dywedodd Mr Harris ei bod hi'n "anrhydedd derbyn gwobr o'r fath yn enwedig ar ol gweld pwy oedd yn cystadlu yn ei erbyn."