Cerflun ger Castell y Fflint yn hollti barn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cynllun i godi cerflun o 'gylch haearn' yn hollti barn

24 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 21:35 BST

Mae Cadw wedi amddiffyn cynllun i godi cerflun o 'gylch haearn' ger Castell y Fflint, gan ddweud mai "creu twf yn yr economi leol" yw'r bwriad.

Mae'r darn celf wedi hollti barn gan ei fod yn cyfeirio at y cestyll gafodd eu hadeiladu gan Loegr wrth iddyn nhw goncro Cymru.

Ymysg y beirniad mae un AC Plaid Cymru, sy'n dweud bod y cerflun yn "sarhad ar y genedl".

Ond dywedodd corff treftadaeth Cadw y byddai "penderfyniadau... fel y geiriau ar y cerflun yn adlewyrchu safbwyntiau lleol".

Yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru - oedd yn rhan o'r broses o ddewis y gwaith - mae "gwerth i annog ymwelwyr i adlewyrchu ar y materion hanesyddol".

Dyma adroddiad Dafydd Evans.