Cadw yn amddiffyn cerflun 'cylch haearn' yn Y Fflint

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Fe fyddai'r cerflun yn 7m o uchder a 30m o led a'r bwriad yw ei agor yn 2018

Mae Cadw wedi amddiffyn cynllun i godi cerflun o 'gylch haearn' ger Castell y Fflint, gan ddweud mai "creu twf yn yr economi leol" yw'r bwriad.

Mae'r darn celf wedi hollti barn gan ei fod yn cyfeirio at y cestyll gafodd eu hadeiladu gan Loegr wrth iddyn nhw goncro Cymru.

Ymysg y beirniad mae un AC Plaid Cymru, sy'n dweud bod y cerflun yn "sarhad ar y genedl".

Ond dywedodd corff treftadaeth Cadw y byddai "penderfyniadau... fel y geiriau ar y cerflun yn adlewyrchu safbwyntiau lleol".

Yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru - oedd yn rhan o'r broses o ddewis y gwaith - mae "gwerth i annog ymwelwyr i adlewyrchu ar y materion hanesyddol".

Mae'r prosiect £400,000 i fod yn rhan o Flwyddyn y Chwedlau, sy'n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru.

Y bwriad, yn ôl y datganiad gwreiddiol, yw nodi trosglwyddo coron Lloegr o un llinach ganoloesol i un arall - digwyddiad sy'n cael ei ddisgrifio yn nrama Richard II gan Shakespeare.

'Sarhad ar y genedl'

Ond i nifer, mae'r symbol yn symbol o orthrwm Lloegr dros Gymru.

Ar Twitter, dywedodd AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, bod "hyn yn sarhad ar y genedl".

Ychwanegodd: "Llywodraeth Llafur Cymru yn dathlu ein gorthrwm a'n darostwng gan Frenin Lloegr. Nodweddiadol ond gwarthus."

Ar ei chyfri' hi, dywedodd y gantores Cerys Matthews ei bod yn "cytuno y bydd adeiladu cylch haearn yn atgoffa cenedlaethau o blant Cymru o'u darostyngiad".

Image copyright Geograph/Mike Searle
Image caption Mae Castell Y Fflint - heb y cerflun - yn denu tua 30,000 o ymwelwyr pob blwyddyn

Ond yn eu hymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cadw: "Rydyn ni'n cydnabod bod celf yn hollti barn, yn annog dadl, ac yn gallu cael ei ddehongli mewn nifer o ffyrdd, a bod cyfuno hanes, celf a lle yn aml yn gallu arwain at emosiynau pwerus ac angerdd."

Dywedodd mai "buddsoddi yn Y Fflint, cynyddu nifer yr ymwelwyr a chreu twf yn yr economi leol" yw bwriad y prosiect, a'i fod yn "gyfle unigryw i hyrwyddo dur Cymreig".

Ychwanegodd: "Byddwn ni'n parhau i wrando ar ystod o safbwyntiau ar y prosiect hwn wrth iddo esblygu, a sicrhau bod penderfyniadau am faterion fel y geiriau ar y cerflun yn adlewyrchu safbwyntiau lleol a hanes Cymru, sy'n gymhleth ac, yn aml, yn anodd."

'Adlewyrchu ar faterion hanesyddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: "Cafodd y gwaith ei gomisiynu ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, rôl Cyngor Celfyddydau Cymru oedd helpu gyda chynghori ar y broses dendro a dewis y gwaith.

"Roedd un aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru ac aelodau'n cynrychioli Croeso Cymru a Chadw ar y panel arfarnu.

"Er y bydd 'na wastad safbwyntiau gwahanol ar gelf gyhoeddus o faint, mae gweithiau o'r fath yn gallu cyfleu ystyron sydd, yn eu tro, yn medru cael effaith gofiadwy a phwerus ar y rheiny sy'n ymweld â safleoedd hanesyddol coffadwriaethol fel Y Fflint.

"Ac mae gwerth i annog ymwelwyr i adlewyrchu ar y materion hanesyddol a diwylliannol fyddai fel arall ddim yn cael sylw."

Straeon perthnasol