Ti neu chi?

Twitter Image copyright Getty Images
Image caption Faint o rôl sydd gan Twitter i'w chwarae yn y defnydd o 'chi' a 'ti'?

Mae'n ddilema oesol yn y Gymraeg - ydych chi'n galw rhywun yn 'chi' neu'n 'ti'?

Dyma gwestiwn sy'n wynebu Cymry ers tro byd ac mae'n debyg fod yr ateb yn amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Ond mae arferion yn newid.

Gyda'r twf ym mhwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol, Dr Dylan Foster Evans - darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd - sy'n dadlau fod y chwyldro technolegol yn gyrru'r newid yn gynt nag erioed:

Agwedd gyfartal

Mae'n siŵr fod pob un ohonom, rywdro, wedi cael y profiad chwithig yma: galw 'chi' ar rywun, a chael 'ti' yn ôl, a hynny'n groes i'r disgwyl. Neu, yn waeth, cynnig 'ti' a derbyn ateb - caredig ond pendant - sy'n cynnwys y 'chi' mwy ffurfiol. Neu - os ydym wedi camgymryd y sefyllfa'n llwyr - "llai o'r 'ti' 'na!"

Mae gan bawb ei farn ar y defnydd o 'ti' a 'chi'. Bydd rhai yn ffafrio 'ti' bob amser gan dybio ei fod yn cyfleu agwedd fwy cyfartal, fwy democrataidd hyd yn oed, na'r 'chi' hierarchaidd. Ond i eraill, mae colli'r 'chi' yn arwydd o ddirywiad, o golli rhywfaint o liw yr iaith, ac o golli strwythur cymdeithasol hefyd.

Ond hawdd iawn yw llunio darlun rhy syml o'r defnydd o 'ti' a'r 'chi' unigol. Er enghraifft, mae'n arferol bellach - am wn i - i blant alw eu rhieni'n 'ti'. Ond mae digon o barau priod ar gael sydd wedi magu llond tŷ o blant ac sy'n dal i alw 'chi' ar ei gilydd. Ac mewn rhai ardaloedd mae'n gyffredin i fechgyn y teulu fod yn 'ti' i bawb, tra bo'r merched, ar y llaw arall, yn 'chi'.

Image copyright iStock
Image caption Ai 'ti' neu 'chi' yw taid a nain?

Does dim un esboniad syml sy'n rhoi cyfrif am yr holl amrywiadau hyn. Dywed rhai mai mater o barch yw defnyddio 'chi'.

Ond mae yna ddigon o bobl ifanc sy'n hapus i ddefnyddio iaith 'gref' (chwedl S4C) gyda'u rhieni gan gadw'n ddeddfol at 'chi' wrth wneud hynny. Ac nid pob person ifanc sy'n tydïo eu rheini a fyddai'n dymuno cael Mam a Dad yn rhannu pabell â nhw gydol yr wythnos ar Faes B!

'Grym' yn y cartref

Mewn gwirionedd, mae sawl ffordd o feddwl am y dewis rhwng 'ti' a 'chi'. Mae ieithegwyr weithiau'n cyfeirio at 'rym' fel ffactor pwysig. Bydd rhiant fel arfer yn fwy grymus na phlentyn ac felly os grym sy'n llywio'r dewis, yna 'chi' fydd y ffurf addas i'r plentyn hwnnw.

Wrth feddwl fel hyn rhaid cofio yma nad grym gormesol sydd gan rieni (at ei gilydd). Yn hytrach byddant yn defnyddio eu grym i ofalu am eu plant a darparu ar eu cyfer, ac felly nid yw defnyddio 'chi' yn arwydd o bellter.

Dro arall, gall mai ffactor gwahanol fydd yr un pwysig, sef 'cyd-safiad'. Gall cyd-safiad bwysleisio agosatrwydd perthynas deuluol, gan olygu bod plant yn galw 'ti' ar eu rheini. Ond gall cyd-safiad hefyd arwain at ragor o ddefnydd ar 'chi'.

Mewn siop, er enghraifft, gall cwsmer oedrannus alw 'chi' ar weithiwr ifanc y mae'n ei adnabod yn dda. Bydd yn gwneud hynny er mwyn osgoi 'siarad i lawr' â'r gweithiwr (er bod oedran a statws y cwsmer yn golygu bod ganddo fwy o lawer o statws neu 'rym'). Enghraifft ddiddorol o hyn yw'r canllawiau a roddwyd rai degawdau yn ôl i swyddogion byddin Ffrainc i beidio byth â galw'r milwyr oddi tanynt yn 'tu'.

Roedd bywyd yn symlach yn yr Oesoedd Canol, wrth gwrs. 'Ti a thithau' oedd hi rhwng pawb bryd hynny. 'Ti' yw pawb yn y Mabinogi, boed frenin neu daeog, a'r arfer hwnnw sydd yn y Beibl hefyd. 'Ti' yw Duw i'r sawl sy'n gweddïo arno hyd heddiw, a 'ti' yw Siôn Corn yntau ('tyrd yma, tyrd i lawr' - er bod rhai siopau Cymraeg bellach yn gwerthu arwyddion 'Siôn Corn: galwch yma!')

Yn yr Oesoedd Canol roedd y Saesneg yn debyg i'r Gymraeg yn hyn o beth. Ond erbyn heddiw, darfu a wnaeth thou a thee yn Lloegr (i bob pwrpas) tra bo 'ti' a 'chi' yn fyw ac iach yn y Gymraeg.

Twitter

Ffactor arall sy'n gyrru newid yw'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae'n deg dweud fod tuedd i ffafrio 'ti' ar y we. (Wrth drydar mae gan 'ti' y fantais o fod un nod yn fyrrach na 'chi', ac mae 'paid' yn bedwar nod yn fyrrach na 'peidiwch'!) Ym marn llawer o'i defnyddwyr, mae'r we yn gyfrwng democrataidd lle mae pawb yn gyfartal a lle mae defnydd cyson o ffurfiau 'ti' yn dderbyniol. Ond nid pawb sy'n cytuno.

Image caption Dr Dylan Foster Evans

Mae'r un peth yn wir yn Ffrainc, wrth i 'tu' ddod yn gynyddol gyffredin ar-lein. Ond rai blynyddoedd yn ôl fe achosodd y newyddiadurwr Laurent Joffrin gryn stŵr pan ofynnodd i rywun 'Qui vous autorise à me tutoyer?' ('Pwy a roddodd ganiatâd ichi fy nhydïo?') Ystyriai llawer ei drydariad yn haerllug a snobyddlyd, ond barn Joffrin oedd bod camddefnyddio 'tu' yn ffurf ar drais ieithyddol.

Nid wyf wedi sylwi ar neb yn trydar unrhyw beth tebyg yn Gymraeg. Ond go brin y byddai'r ymateb yn ffafriol pe byddai rhywun yn ceisio.

Ac er y gall gor-ddefnydd o 'ti' fod yn dacteg gan y lleiafrif bychan sy'n mwynhau trolio neu fwbachu ar-lein, mae'n anodd gweld hynny'n cael effaith arwyddocaol ar y defnydd o'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Sut y byddwn yn ddefnyddio 'ti' a 'chi' ymhen canrif, felly? Pwy a ŵyr? Nid yw hanes yr iaith yn cynnig un ateb syml. Ond pe bai raid imi ddyfalu, fe ddywedwn mai "mwy o'r 'ti'" a "llai o'r 'chi' 'na" fydd hi!