Abertawe yn gwrthod cynnig Everton o £40m am Sigurdsson

Gylfi Sigurdsson Image copyright Getty Images
Image caption Mae gan Gylfi Sigurdsson dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb gyda'r Elyrch

Mae Abertawe wedi gwrthod cynnig o £40m gan Everton am y chwaraewr canol cae, Gylfi Sigurdsson.

Mae disgwyl i'r Elyrch fynnu £50m am y chwaraewr 27 oed, wnaeth sgorio naw gôl y tymor diwethaf.

Wnaeth Sigurdsson ddim teithio gyda charfan Abertawe i'r UDA ar gyfer eu taith ddiweddar, ac ers hynny mae wedi bod yn ymarfer gyda'r garfan dan-23.

Mae Abertawe eisoes wedi gwrthod cynnig tebyg gan Gaerlŷr am y chwaraewr o Wlad yr Iâ.