Cwmni'n ystyried mwyngloddio eto ar Fynydd Parys

Mynydd Parys
Image caption Mae perchennog Anglesey Mining yn dweud bod "cefnogaeth" i ailddechrau mwyngloddio ar Fynydd Parys

Mae adroddiad yn awgrymu bod gwerth ailddechrau cloddio ar Fynydd Parys, Ynys Môn, yn ôl perchnogion y safle.

Daeth gwaith i ben yn y cloddfeydd sinc a chopr ger Amlwch yn y 1900au.

Ond mae cwmni Anglesey Mining rŵan yn dweud bod arolwg yn dangos y gallai gwerth y metel ar y safle - gan gynnwys aur ac arian - fod cymaint â $270m (tua £207m).

Cam nesaf y cwmni, sy'n rhedeg y safle ers 1984, yw dod o hyd i fuddsoddwyr i ariannu adroddiad pellach.

'Diffyg byd-eang o sinc'

Yn y blynyddoedd ers i'r mwyngloddio ddod i ben ar Fynydd Parys, bu mwy nag un ymgais aflwyddiannus i ailddechrau'r cloddio.

Ond mae Prif Weithredwr Anglesey Mining, Bill Hooley, yn dweud y bydd nawr yn siarad â buddsoddwr i weld os oes diddordeb mewn ceisio eto.

"Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod prosiect hyfyw ganddon ni", meddai.

"Rydyn ni'n credu bod cefnogaeth i ni. Mae diffyg sinc yn y farchnad fyd-eang."

Image caption Awgrym adroddiad ydy y byddai Mynydd Parys yn gallu cynhyrchu 14,000 tunnell o sinc y flwyddyn am wyth mlynedd

Awgrym yr adroddiad yw y byddai'n costio tua $53m (tua £40.5m) i gloddio 1,000 tunnell y dydd ar y safle.

Mae'r ddogfen yn amcangyfrif y byddai'r gwaith yn cynhyrchu 14,000 tunnell o sinc, 7,200 tunnell o blwm a 4,000 o gopr y flwyddyn dros gyfnod o wyth mlynedd.

Byddai rhywfaint o aur hefyd yn cael ei gloddi, a byddai'n cael ei farchnata fel aur o Gymru.

Image caption Mae ymwelwyr ar hyn o bryd yn medru troedio tirwedd anghyffredin Mynydd Parys

Yn 2006, roedd Anglesey Mining yn bwriadu gwerthu cyfrannau o'r cwmni i dalu am astudiaeth i weld os byddai modd ailagor y gloddfa.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, bu bron i'r cwmni werthu'r safle i fusnes o Awstralia.

Dywedodd Mr Hooley ei fod yn gobeithio bod yr astudiaeth ddiweddara'n denu buddsoddwyr.

Mae'n dweud y gallai'r safle mwyngloddio ailgychwyn o fewn dwy flynedd, os yw'n cael buddsoddiad, ac y byddai'r cwmni'n medru creu 120 o swyddi.

"Maen ganddon ni ganiatâd cynllunio ers 1990 - mae hwnna dal yn ddilys. Fe fyddai'n rhaid i ni gael trwyddedau i weithredu ond mae'r caniatâd cynllunio sylfaenol yn ei le.

"Rydyn ni'n credu bod cefnogaeth dda yn lleol ar arfordir gogleddol Môn. Mae angen swyddi yn yr ardal ac roedd yn ardal fwyngloddio draddodiadol yn y gorffennol."