Yn ôl Dr Emyr Roberts mae Brexit yn cynnig cyfleoedd i sectorau yn y maes gydweithio yn agosach
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Brexit yn gyfle i 'ddatblygu polisïau amgylcheddol'

27 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 06:50 BST

Mae Brexit yn cynnig cyfle i sectorau yn y maes amgylcheddol gydweithio yn agosach a datblygu atebion Cymreig meddai Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Dr Emyr Roberts fod yr Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfan ond bod "potensial i wneud hyd yn oed yn well".

Bydd Dr Emyr Roberts yn ymddeol ym mis Hydref ar ôl bron i bum mlynedd wrth y llyw.