Mae Hugh wedi cael cyfle i ymarfer ei Gymraeg yn ei siop leol
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Dysgwr y Flwyddyn 2017: Angen 'hyder' i ddysgu'r iaith

3 Awst 2017 Diweddarwyd 07:41 BST

Bydd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2017 yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos y brifwyl yn Ynys Môn.

Hugh Brightwell o Ellesmere Port yw un o'r cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Mae'n dweud mai diffyg hyder siarad yr iaith gyda phobl eraill oedd un o'r problemau ar y dechrau ond ei fod wedi cael cefnogaeth wrth ymarfer yn ei siop Gymraeg lleol.