Morgannwg yn curo Sir Gaerloyw yn y T20

David Miller Image copyright Harry Trump
Image caption Dywedodd David Miller ei fod yn "hapus iawn" â'i berfformiad

Fe sgoriodd David Miller 50 rhediad yn ei gêm gyntaf dros Forgannwg, wrth i'r tîm ennill oddi cartref yn erbyn Sir Gaerloyw yn y T20 nos Fawrth.

Morgannwg fatiodd gyntaf, ac fe gyfrannodd y capten Jacques Rudolph 51 rhediad at y gyfanswm o 176-5.

Er i Michael Klinger gael 52 rhediad i'r tîm cartref, doedd ei ymdrech ddim yn ddigon gyda Sir Gaerloyw allan am 151-7.

Wedi'r gêm, dywedodd Miller ei fod "yn hapus iawn" a'i fod yn "edrych ymlaen at y pedair gêm nesaf".

"Ro'n i 'chydig yn nerfus am y peli cyntaf... ond roedd hi'n braf batio gyda Jacques Rudolph sydd â llawer o brofiad."