Ymchwilio wedi honiad bod dyn wedi taro plentyn

glan y mor Image copyright Chris shaw/Geograph

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi honiad bod dyn wedi taro bachgen ifanc yn ei wyneb ar draeth Aberafan ym Mhort Talbot.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn credu i ddyn, gweddol fawr o ran maint, daro'r plentyn, a gredir i fod yn pump neu chwe blwydd oed am 14:20 ddydd Sadwrn, y tu allan i gaffi Remo.

Roedd y dyn, sy'n cael ei ddisgrifio'n wyn ac yn gyhyrog gyda gwallt sinsir, yn ei 30au hwyr, yn gwthio'r plentyn mewn beic tair olwyn.

Roedd yn gwisgo cap pêl fas du neu glas a chrys-t pinc llachar.

Dywedodd yr heddlu ei fod gyda menyw gwallt hir du, ac roedd hi yn gwisgo côt lwyd hir ac yn gwthio plentyn bach mewn bygi.

Mae'r heddlu eisiau dod o hyd i'r plentyn ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu trwy ffonio 101.