Car 'heb stopio' ar ôl anafu cerddwr mewn gwrthdrawiad

Stryd Image copyright Google

Mae cerddwr yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yng nghanol Caerdydd.

Dywedodd Heddlu'r De na wnaeth gyrrwr y car BMW llwyd oedd ynghlwm â'r digwyddiad ar Wood Street stopio yn dilyn y digwyddiad am 11:49.

Cafodd y cerbyd ei ganfod yn ddiweddarach yn ardal Glan yr Afon.

Y gred yw bod y gyrrwr wedi gyrru i ffwrdd o swyddogion heddlu ychydig cyn y gwrthdrawiad fore Mercher.

Mae'r heddlu'n chwilio am ddau berson maen nhw'n credu oedd yn y car ar y pryd.

Dywedodd Heddlu De Cymru y gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu trwy ffonio 101.