TGAU Seicoleg: Pryderon yn parhau am ddarpariaeth Gymraeg

Dosbarth

Mae pryderon yn parhau am ddyfodol y cwrs TGAU Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dwy flynedd ers i CBAC benderfynu rhoi'r gorau i gynnig y cymhwyster oherwydd gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr, mae pennaeth seicoleg un ysgol wedi llunio deiseb yn galw am degwch i ddisgyblion sydd eisiau astudio'r pwnc yn Gymraeg.

Dywedodd Chris Evans - pennaeth seicoleg Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam - wrth raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru fod y cwrs "ar gael drwy fyrddau Saesneg i ysgolion cyfrwng Saesneg".

"Mae 'na un ysgol lawr y ffordd sy'n cychwyn cwrs seicoleg TGAU 'efo blwyddyn 10 drwy fwrdd AQA o Loegr," meddai.

"Ond yn anffodus, dydyn nhw ddim yn fodlon cynnig y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
TGAU Seicoleg: 'Gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg'

Mewn datganiad, dywedodd bwrdd AQA eu bod yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru i ddiogelu dyfodol nifer o gymwysterau TGAU yng Nghymru wedi i CBAC roi'r gorau i'w cynnig.

Ychwanegodd llefarydd fod y bwrdd "wastad wedi ei gwneud hi'n glir na allwn ni gynnig y cymwysterau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg".

'Galw yn isel'

"Mae'r galw am rai pynciau dewisol yn isel iawn yng Nghymru a Lloegr ac felly nid yw pob corff arholi yn darparu," yn ôl prif weithredwr bwrdd arholi CBAC, Gareth Pierce.

"Yn y pynciau hynny lle nad oes fersiwn penodol ar gael ar gyfer Cymru, mae'r rheoleiddiwr yn gallu caniatáu'r defnydd o fersiwn Lloegr o'r cymhwyster yn ysgolion a cholegau Cymru.

"Yn yr achosion hynny, mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am ddatganiad gan y corff arholi o ran polisi iaith.

"Pan fo CBAC yn defnyddio fersiwn Lloegr o gymhwyster yng Nghymru, bydd hefyd yn darparu fersiwn Gymraeg yn ôl yr angen.

"Yn anffodus, nid yw TGAU Seicoleg ymhlith y pynciau y bydd CBAC yn eu darparu yng Nghymru nac yn Lloegr."

'Dal i drafod'

Yn y cyfamser, mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod fod galw am gynnig y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd llefarydd wrth y Post Cyntaf eu bod yn "parhau i edrych ar sut y gallwn ni gyflawni hyn".

Ychwanegodd: "Rydym mewn trafodaethau gyda dau gorff dyfarnu, CBAC a Pearson, i weld os oes modd rhoi trefniadau yn eu lle a fyddai'n sicrhau argaeledd cyfrwng Cymraeg ar gyfer y flwyddyn nesaf."