Tagfeydd yn 'tanseilio' gwasanaethau bws, medd pwyllgor

bysiau

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos "ewyllys wleidyddol gryfach" i fynd i'r afael â phroblem tagfeydd traffig a'u heffaith ar wasanaethau bws.

Dyna gasgliadau adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad.

Mae gwasanaethau bws i gyfrif am 80% o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac mae'n cael ei ystyried yn hanfodol bwysig i bobl sydd ddim yn berchen ar gar.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi gosod mesurau yn eu lle i daclo tagfeydd a gwella prydlondeb bysiau.

'Angen cynllun'

Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad, mae amseroedd teithio yn arafu'n gynt nag unrhyw fodd arall o deithio, ac mae hynny'n gwneud defnyddio'r gwasanaethau yn llai atyniadol i gwsmeriaid.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr AC Ceidwadol Russell George: "Wrth wraidd y mater hwn mae'r angen am ewyllys wleidyddol gryfach. Yn gyffredinol, mae'r pwerau, y liferi, a'r ddeddfwriaeth yn eu lle.

"Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw cynllun gweithredu gan Lywodraeth Cymru, sy'n dwyn ynghyd yr hyn sy'n gweithio, ac sy'n annog awdurdodau lleol i fabwysiadu ac addasu arferion da."

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae gwasanaethau bws cofrestredig yng Nghymru wedi bron a haneru, o 1,943 ym mis Mawrth 2005, i 1,058 ym mis Mawrth 2015.

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Fe wnaeth gwasanaeth TrawsCymru gludo 1.6 miliwn o deithwyr yn 2016/17

Bu gostyngiad o 19% hefyd yn nifer y teithiau gan deithwyr rhwng 2008 a 2015.

Yn sgil hynny mae'r Pwyllgor wedi galw am gynllun gweithredu gan Lywodraeth Cymru fyddai'n cynnwys:

  • Cydnabyddiaeth o raddfa a maint effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru, ac ymrwymiad cadarn i fynd i'r afael â'r mater;
  • Sut i gefnogi awdurdodau lleol i weithio mewn partneriaeth gyda gweithredwyr bysiau i ddatblygu a gweithredu mesurau blaenoriaeth i fysiau, gan gynnwys newidiadau i gyllid er mwyn sicrhau atebion hir dymor a chynaliadwy;
  • Asesiad o'r ffyrdd posib i fynd i'r afael ag effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys: cynlluniau parcio a theithio, taliadau tagfeydd, taliadau parcio uwch, ardollau parcio yn y gweithle, a mesurau blaenoriaeth i fysiau.

'Mwy o danwydd'

Dywedodd Bysiau Caerdydd wrth y pwyllgor mai tanwydd a llafur yw cost fwyaf eu gwasanaeth, a phan mae traffig yn arafu mae angen iddyn nhw dalu mwy i'w gweithwyr a mwy am danwydd i ddarparu'r un gwasanaeth.

Yn ôl eu cyfarwyddwr gweithredol, Richard Davies roedd ganddyn nhw 77 bysus yn rhedeg llwybrau yn y brifddinas yn 1999, ond bellach mae angen 92 arnynt, a hynny o ganlyniad i oedi oherwydd tagfeydd.

"Os 'dyn ni'n defnyddio 20% yn fwy o fysiau nag oedden ni 18 mlynedd yn ôl, mae hynny'n golygu 20% yn fwy o gostau," meddai.

"Rydyn ni'n teithio'r un faint o filltiroedd, ond mewn amser hirach felly 'dyn ni'n defnyddio mwy o danwydd.

Image caption Yn ôl Richard Davies mae tagfeydd yn golygu fod angen mwy o gerbydau, tanwydd a staff

"Ar y llaw arall, mae ein gyrwyr yn cael eu talu fesul awr felly os yw'n cymryd hirach i ni gwblhau siwrnai, mae'n golygu cost ychwanegol i ni."

Dywedodd cwmni arall, Stagecoach, fod siwrnai hirach a'r effaith ar swyddi a chynhyrchiant yn cael "effaith negyddol ar economïau lleol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Ysgrifennydd yr Economi ac Isadeiledd, Ken Skates eisoes wedi cydnabod y bygythiad i wasanaethau bws o achos tagfeydd.

"Rydym eisoes wedi rhoi ystod o fesurau yn eu lle i daclo tagfeydd a gwella prydlondeb gwasanaethau bws, fel caniatáu i awdurdodau lleol gael pwerau dros barcio, lonydd bws a throseddau pan mae traffig yn symud."

Ychwanegodd: "Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau heddiw a byddwn yn ystyried yr argymhellion mewn manylder cyn ymateb ymhellach."